Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain

Mae gwyddoniaeth yn hwyl; cyfarfod gyda neidir yn ystod ffair 2014

Mae gwyddoniaeth yn hwyl; cyfarfod gyda neidir yn ystod ffair 2014

12 Mawrth 2015

Cynhelir Ffair Wyddoniaeth flynyddol Prifysgol Aberystwyth ar 17, 18 a 19 Mawrth fel rhan o Wythnos Gyddoniaeth Prydain (13-22 Mawrth).

Bydd mwy na 1400 o ddisgyblion ysgol o Geredigion, Powys a Gwynedd yn cael cyfle i ddefnyddio cyfres o arddangosfeydd gwyddonol rhyngweithiol yn y ffair sydd wedi ei threfnu gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiad Cymdeithasol (CWPSI) y Brifysgol.

Mae’r ffair, sy’n cael ei chynnal yn y Gawell Chwaraeon ar gampws Penglais, yn agored i ddisgyblion ysgol a’r cyhoedd. Y thema eleni yw ‘Gwyddoniaeth Brydeinig’.

Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd rhwng 9.30 y bore a 3 y prynhawn, a bydd sesiwn ychwanegol i aelodau o’r cyhoedd rhwng 4 a 6 brynhawn Mercher 18 Mawrth.

Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn arddangosiadau a gweithgareddau, gan gynnwys cyfarfyddiadau ymarferol gydag anifeiliaid, deall llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd, cwrdd â robotiaid a llu o stondinau cyffrous eraill ac sy’n cael eu trefnu gan fyfyrwyr.

A bydd dyfeisiadau ar gael i’r disgyblion fapio eu symudiadau o amgylch y neuadd, yn oygstal â helfa drysor.

Dywedodd Roger Morel, Swyddog Prosiect Gwyddoniaeth: “Nod y Ffair Wyddoniaeth yw arddangos y gwaith gwyddonol rhagorol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r ardal gyfagos. Ei phwrpas yw ehangu gwybodaeth disgyblion ysgol a’r cyhoedd am wyddoniaeth, eu hysbrydoli a dangos iddynt bwysigrwydd gwyddoniaeth yn ein bywydau.”

Dywedodd Debra Croft (Rheolwr CWPSI): “Ni allem wneud hyn heb frwdfrydedd, proffesiynoldeb a gwybodaeth yr Athrofeydd a’r Adrannau – y staff a’r myfyrwyr. Mae’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu dysgu a'u defnyddio gan ein myfyrwyr gyda'r gynulleidfa heriol hon o bobl ifanc yn ddigon o ryfeddod ac yn ddyfeisgar.”

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r 130 a mwy o staff a myfyrwyr a fydd yn cymryd rhan o adrannau Mathemateg, Ffiseg, Cyfrifiadureg, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, sy'n rhoi o'u hamser ac egni er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad, yn ogystal â staff cynorthwyol o’r Adran Ystadau a'r Ganolfan Chwaraeon. Hefyd, Cyngor Sir Ceredigion, Grŵp Addysg Biosffer Dyfi, COBWEB (Arsyllfa Gwe’r Dinesydd), yr RSPB ac Ecodyfi.”

Ceir mwy o wybodaeth am Ffair Wyddoniaeth Prifysgol Aberystwyth yma a phoster y digwyddiad yma.

AU9715