Wythnos Un Byd yn dathlu cyfraniad myfyrwyr rhyngwladol

Wythnos Un Byd

Wythnos Un Byd

16 Mawrth 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth dathlu Wythnos Un Byd yr wythnos hon mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei wneud i'r Brifysgol, y gymuned leol ac economi Cymru.

Mae Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol wedi trefnu digwyddiadau'r wythnos ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr.

Un o brif ddigwyddiadau’r wythnos fydd Hystingau’r Etholiad Cyffredinol: 'Trafodaeth ar Fewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladol', sy'n cael ei chynnal ar nos Iau 19 Mawrth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae ymgeiswyr y prif bleidiau wleidyddol sy'n sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol yng Ngheredigion wedi eu gwahodd i ateb cwestiynau o'r llawr ar eu polisïau ar fewnfudo a myfyrwyr rhyngwladol. Bydd cyfle hefyd i fyfyrwyr rhyngwladol i wneud cyflwyniadau cyn i’r brif ddadl ddechrau.

Hefyd yn ystod yr wythnos cynhelir Ffair y Byd, ar 19 Mawrth yn Undeb y Myfyrwyr rhwng hanner dydd a 5 y prynhawn.

Bydd dangosiad hefyd yn sinema Canolfan y Celfyddydau o’r ffilm Bwylaidd Ida, enillydd yr Oscar am y Ffilm Iaith Dramor orau eleni.

Ac ar nos Lun 16 Mawrth yn Undeb y Myfyrwyr bydd talentau’r myfyrwyr rhyngwladol i’w gweld yn Noson Fawreddog Wythnos Un Byd.

I gyd-redeg gyda Wythnos Un Byd cynhelir yr ymgyrch ‘Gydag ychydig gymorth gan fy ffrindiau’.

Ymgyrch hunlun a fideo yw hwn a’r nôd yw dathlu’r cyfeillgarwch rhwyngwladol rhwn ffrindiau, staff a’r gymuned yn Aberystwyth.

Daw rhai o brofiadau mwyaf cadarnhaol myfyrwyr rhyngwladol yn sgíl y cyfeillgarwch y maent yn ei brofi gydag aelodau staff, cyd-fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol, wrth iddynt ymgyfarwyddo â bywyd Prifysgol.

Ceir rhestr rhestr lawn o ddigwyddiadau Wythnos Un Byd yma.

AU6915