Llun o robot yn ‘gwrando’ ar fabi cyn ei eni yn ennill gwobr ffotograffiaeth

“Y Darganfyddiad Mwyaf”

“Y Darganfyddiad Mwyaf”

17 Mawrth 2015

Mae delwedd o robot yn 'gwrando' ar fabi cyn ei eni wedi ennill gwobr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Gwyddoniaeth Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianyddol a Ffisegol (EPSRC).

Tynnwyd y llun, "Y Darganfyddiad Mwyaf”, gan Sandy Spence yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n cynnwys mam feichiog, Ayesha Jones, a robot dynol yr Adran, yr iCub.

Mae ymchwil Grŵp Roboteg Deallus yr Adran Gyfrifiadureg wedi’i ysbrydoli gan ddatblygiad babanod yn ystod cyfnodau cynnar iawn bywyd.

Dywedodd Patricia Shaw, darlithydd mewn Cyfrifiadureg ac aelod o'r Grŵp Roboteg Deallus: “Rydym yn gweithio gyda seicolegwyr a niwrowyddonwyr i ddeall sut mae plant yn datblygu a dysgu, hyd yn oed o'r cyfnod cyn geni.

“Yn y gwaith yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn, rydym wedi datblygu model sy'n galluogi'r robot iCub i ddysgu sut i gydlynu’r hyn y mae'n ei synhwyro â’r symudiadau y mae’n gallu eu gwneud.

“Yn y llun, roeddem yn awyddus i adrodd stori i'r cyhoedd yn gyffredinol am yr ymchwil yr ydym yn ei wneud. Mae'r robot yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y plentyn sydd heb ei eni. Wrth i’r babi dyfu a datblygu, felly hefyd y bydd y robot. Felly, mae'r ddelwedd yn adlewyrchu'r ymchwil yr ydym wedi bod yn ei wneud.

“Mae ennill y gystadleuaeth hon yn ein galluogi i ledaenu'r gair am ein gwaith ymchwil, a meithrin diddordeb yn y datblygiadau posibl a allai godi o hynny. Y nod yw ymchwil a allai arwain at robotiaid sydd yn llawer mwy abl i addasu i sefyllfaoedd anhysbys oherwydd bod ganddynt y gallu i ddysgu a darganfod sgiliau newydd.”

Y mis hwn mae'r Grŵp Roboteg Deallus ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cychwyn ar brosiect 3 blynedd newydd sydd wedi ei ariannu gan yr EPSRC.

Drwy weithio gyda seicolegwyr datblygiadol, bydd y grŵp yn adeiladu ar waith ymchwil blaenorol i helpu'r robot i ddysgu mwy am ffiseg gwrthrychau a sut i ddefnyddio’r gwrthrychau yma fel offer.

Roedd pum categori yn Nghystadleuaeth Ffotograffiaeth Gwyddoniaeth yr EPSRC eleni; Darganfod, Rhyfedd a Rhyfeddol, Offer, Arloesi, a Phobl.

Yr enillydd cyffredinol oedd 'March of the Triffids', gan Paul May o Brifysgol Bryste.

Wrth longyfarch yr enillwyr a'r cystadleuwyr, dywedodd yr Athro Philip Nelson, Prif Weithredwr EPSRC: “Mae ansawdd y cofnodion yn brawf o'r talentau gwyddonol ac artistig y bobl y mae’r EPSRC yn eu cefnogi.”

“Mae'r gystadleuaeth hon a’r lluniau yma sydd wir yn ysbrydoli yn ffordd wych i ni ymgysylltu ag academyddion, cysylltu’r cyhoedd gyda’r ymchwil y maent yn ei ariannu, ac yn ysbrydoli pawb i ymddiddori mewn gwyddoniaeth a pheirianneg.”

Derbyniodd y gystadleuaeth fwy na 150 o geisiadau gan ymchwilwyr sy'n derbyn cyllid gan yr EPSRC.

Y beirniaid oedd: Martin Keene, Golygydd Lluniau Grŵp, Press Association; Lesley Thompson, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Pheirianneg yr EPSRC, a chynhyrchydd rhaglen Radio 5 Live, The Naked Scientists, Graihagh Jackson.

EPSRC yw prif asiantaeth y Deynas Gyfunol ar gyfer ariannu ymchwil mewn peirianneg a'r gwyddorau ffisegol.  Mae EPSRC yn buddsoddi tua £800 miliwn y flwyddyn mewn ymchwil a hyfforddiant ôl-raddedig, er mwyn cynowrthwyo’r genedl i ymdopi gyda’r genhedlaeth nesaf o newid technolegol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Gystadleuaeth Ffotograffiaeth Gwyddoniaeth yr EPSRC ar-lein yma http://www.epsrc.ac.uk/newsevents/news/tinytriffids/.

AU9915