Hystings yr Etholiad Cyffredinol 2015

30 Mawrth 2015

Cynhelir digwyddiad Hystings yr Etholiad Cyffredinol 2015 gyda’r chwe ymgeisydd dros Geredigion ar ddydd Iau 16 Ebrill ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wedi’i drefnu gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig, cynhelir y digwyddiad yn y Brif Neuadd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais am 6.30pm.

Cadeirir y noson gan Sara Gibson, BBC Cymru Wales, a cheir cyfle i glywed yr ymgeiswyr yn trafod polisïau ac yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Y chwe ymgeisydd dros Geredigion a fydd yn cymryd rhan yn  yr hystings yw: Henrietta Hensher (Ceidwadwyr), Gethin James (UKIP), Mike Parker (Plaid Cymru), Huw Thomas (Llafur), Daniel Thompson (Y Blaid Werdd), a Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).

Meddai Dr Anwen Elias, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, "Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda changen Ceredigion o’r Sefydliad Materion Cymreig i gynnal y digwyddiad hwn a fydd yn gyfle i fyfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd i gyfrannu at y ddadl a holi cwestiynau yn uniongyrchol i'r ymgeiswyr.”