Cyfri'r ffyrdd i lwyddiant TGAU

Cwrs sy’n cyfri - myfyrwyr ar y cwrs Adolygu Mathemateg TGAU yn wythnos hon yn mwynhau seibiant o’r gwaith

Cwrs sy’n cyfri - myfyrwyr ar y cwrs Adolygu Mathemateg TGAU yn wythnos hon yn mwynhau seibiant o’r gwaith

09 Ebrill 2015

Yr wythnos hon, mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu pobl ifanc o bob rhan o Geredigion a Phowys i'w Wythnos Adolygu Mathemateg TGAU.

Yn ystod y cwrs preswyl pedwar diwrnod, bydd dros 80 o bobl ifanc yn aros yn y Brifysgol ac yn rhoi sglein ar eu mathemateg cyn eu harholiadau TGAU yr haf hwn.

Meddai Dr Debra Croft, Rheolwr Canolfan y Brifysgol ar gyfer Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol: “Bob blwyddyn rydym yn croesawu pobl ifanc i'r ysgol astudio a rhoi cefnogaeth ac anogaeth iddynt i ddatblygu eu sgiliau rhifedd, a thechnegau arholiadau ymarferol, cyn eu harholiadau TGAU.

“Mae'r cwrs wedi ei dargedu at unigolion sydd ar fin cyflawni gradd C yn eu Mathemateg TGAU, ond eu bod angen rhywfaint o gymorth i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni'r graddau sydd eu hangen i symud ymlaen gyda'u hastudiaethau pellach. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd sy'n annhebygol o gael yr arian i gefnogi gwersi preifat ychwanegol, ac yn darparu amgylchedd groesawgar a diogel iddynt ganolbwyntio ar eu dysgu a dod i adnabod pobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru.”

Caiff y disgyblion eu cefnogi gan ystod o staff a myfyrwyr y Brifysgol. Bydd chwe myfyriwr i bob tiwtor, myfyrwyr o'r Adrannau Gwyddoniaeth, Mathemateg a Ffiseg yn bennaf sydd wedi derbyn hyfforddiant mewn sgiliau addysgu a thiwtora gan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad.

 Debra ymlaen: “Yn ogystal â darparu profiad dysgu rhagorol ar gyfer cyfranogwyr, mae’r Wythnos hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr y Brifysgol sy'n dymuno datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd, ac i ennill profiad o addysgu. Mae cyfanswm o 28 o fyfyrwyr yn gweithio gyda'r bobl ifanc, bydd hanner ohonynt yn gweithio fel tiwtoriaid a'r hanner arall yn gweithio fel arweinwyr gan drefnu'r chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.”

Mae'r cwrs preswyl yn cael ei gynnig yn y Gymraeg a'r Saesneg a bydd y disgyblion yn cael profiad uniongyrchol o fywyd prifysgol gan eu bod yn aros mewn neuaddau preswyl ar y campws a chymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu.

Mae’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau i Addysg Uwch, boed yn gorfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol. Mae'r tîm yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau ac yn cefnogi uchelgais y Brifysgol i greu cyfleoedd a gwella hygyrchedd i Addysg Uwch.

AU12815