Myfyrwyr o Aberystwyth yn ennill gwobr #newsHACK BBC Cymru

O'r chwith i'r dde: Aelodau Tîm buddugol Prifysgol Aberystwyth '//no comment’; Cormac Brady, Nicholas Dart, Laura Pugh, Owen Garland a Xander Barnes yn derbyn hwdis BBC gan Robin Pembrooke Pennaeth Cyfryngau'r Dyfodol yn y BBC.

O'r chwith i'r dde: Aelodau Tîm buddugol Prifysgol Aberystwyth '//no comment’; Cormac Brady, Nicholas Dart, Laura Pugh, Owen Garland a Xander Barnes yn derbyn hwdis BBC gan Robin Pembrooke Pennaeth Cyfryngau'r Dyfodol yn y BBC.

15 Ebrill 2015

Yn dilyn eu buddugoliaeth yng nghystadleuaeth #newsHack BBC Cymru, bydd aelodau tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymweliad â chanolfan y BBC yn MediaCity, yn Salford ger Manceinion, ac yn derbyn cyfleoedd mentora.

Enillodd Xander Barnes, Cormac Brady, Nicholas Dart ac Owen Garland o’r Adran Gyfrifiadureg, a Laura Pugh o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol myfyrwyr Laura Pugh y wobr gyntaf am eu syniad ‘pentref BBC’ yn #newsHACK Cymru, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yn Y Galeri, Caernarfon ym mis Mawrth.

Cyhoeddwyd taw’r tîm o Aberystwyth oedd enillwyr dros Gymru gyfan, yn dilyn digwyddiad #newsHack yng Nghaerdydd a fynychwyd gan brifysgolion yn Ne Cymru.

Y dasg i’r timau oedd creu gwasanaeth newyddion personol sy’n ymwybodol o ble mae’r defnyddiwr,  ac sy’n siapio’u hunan o’i gwmpas?”

Datblygodd y tîm o Aberystwyth, '//no comment’, system a fyddai'n cael gwybod pa newyddion yr oedd pobl mewn ardal benodol yn son amdano, fel y gallai'r defnyddiwr cael gwybod am y peth hefyd.

Yn ogystal ag ymweld â stiwdios y BBC, bydd aelodau o '//no comment’ yn cael cynnig Ffrind personol BBC Cymru Wales a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad o’r diwydiant, a thrafod cyfleoedd cyflogaeth.

Wrth ymateb i lwyddiant y tîm, dywedodd Cormac Brady: “Roedd News Hack yn ddigwyddiad gwych i weithio mewn grŵp, tuag at nod cyffrous ac o dan bwysau i’w gwblhau o fewn 48 awr. Gwnaethom gyfarfod â llawer o bobl ddiddorol o’r BBC ac o brifysgolion eraill ar draws Cymru.  Perfformiodd y tîm yn dda a llwyddo ni i ddylunio a chreu llwyfan crynhoi a rhannu newyddion o amgylch y syniad nad ‘Newyddion Lleol’ yw’r hyn sydd yn digwydd o’ch amgylch o reidrwydd, ond yn hytrach beth mae pobl o’ch amgylch yn ei drafod. Mae pob un ohonom wrth ein boddau o fod yn bencampwyr News Hack BBC Cymru!”

Yr ail dîm i gynrychioli Prifysgol Aberystwyth yn #newsHACK Cymru oedd ‘Ginger and the Onions’.

Datblygodd aelodau'r tîm, Christopher Krzysztof Ilkow, Filip Zajac, Artur Powroznik a Kamil Mrowiec o’r Adran Gyfrifiadureg, a Jessica Hearne o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ffrwd newyddion  oedd yn ymwybodol o leoliad a dewis cynnwys y defnyddiwr.

Dywedodd Lynda Thomas, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg: “Roeddwn yn falch iawn o ddau dîm. Creodd y ddau syniadau arloesol ac yn cynhyrchu systemau a oedd yn gweithio – maent yn glod i'r Brifysgol.”

Ym Mlog News Lab y BBC, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Gyda chymysgedd gwych o fyfyrwyr Cyfrifiadureg a Newyddiaduraeth yn y timau, cawsom ein synnu ar yr ochr orau gan ansawdd y cyflwyniadau, a chyfeiriad y prosiectau, o ystyried persbectif gyrru-gan-y-gynulliedfa’r BBC.”

AU13315