Aberystwyth ar restr fer am bedair Gwobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth y Times Higher Education

Mae prosiect cenhadaeth i’r gofod ar y cyd rhwng y Brifysgol ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi ei gydnabod yn y categori Menter Cyfnewid/ Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae prosiect cenhadaeth i’r gofod ar y cyd rhwng y Brifysgol ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi ei gydnabod yn y categori Menter Cyfnewid/ Trosglwyddo Gwybodaeth

16 Ebrill 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer mewn pedwar categori ar gyfer Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education (THELMAs).

Bellach yn eu seithfed flwyddyn, mae'r THELMAs yn agored i bob sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol ac yn dathlu’r enghreifftiau gorau o arloesedd, gwaith tîm a mentergarwch o fewn Prifysgolion.

Caiff Aberystwyth ei chydnabod mewn pedwar categori: Menter Cyfnewid/ Trosglwyddo Gwybodaeth, Tîm Ystadau Eithriadol, Tîm Adnoddau Dynol Eithriadol, a Thîm Llyfrgell Eithriadol.

Menter Cyfnewid/ Trosglwyddo Gwybodaeth
Prosiect cenhadaeth i’r gofod ar y cyd rhwng y Brifysgol ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth sy’n cael ei gydnabod yn y categori Menter Cyfnewid/ Trosglwyddo Gwybodaeth.

O dan arweiniad Dr Mark Neal, cydlynydd y Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, sydd hefyd yn rhiant yn yr ysgol; gweithiodd y prosiect gyda disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth i lansio roced i'r gofod ar 12 Mehefin 2014.

Roedd lansiad y roced yn benllanw prosiect lle bu’r disgyblion yn astudio’r gofod, y tywydd, a  lansiadau tebyg eraill, a buont yn gweithio gyda’r animeiddiwr Tim Allen i wneud ffilmiau byr wedi animeiddio o deithwyr gofod dewr yn dringo i mewn i'r capsiwl gan fynd â negeseuon o Blaned y Ddaear gyda nhw.

I baratoi ar gyfer y daith, adeiladodd y disgyblion roced i gartrefu’r capsiwl gofod, a gwneud ffigurau plastisin bach a wynebodd y daith lafurus i'r gofod.

Tynnwyd delweddau syfrdanol gan gamera GoPro ar fwrdd y roced a roddwyd mewn capsiwl polystyren, ac a glymwyd i’r balŵn tywydd. Roedd y delweddau yn cynnwys golygfeydd o ganolbarth Cymru, Penrhyn Llŷn, de-orllewin Lloegr a delwedd drawiadol pan fyrstiodd y balŵn tywydd ac y defnyddiwyd y parasiwt.

Wrth sôn am gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Mr Clive Williams, Pennaeth Strategol Ysgol Gymraeg Aberystwyth: “Mae’r ysgol wedi elwa’n fawr o fod yn rhan o’r cynllun arloesol yma ac mae’r profiadau ymarferol wedi bod yn sail i gyfoeth o brofiadau dysgu newydd sydd wedi ymestyn gorwelion y disgyblion. Dymuna Ysgol Gymraeg Aberystwyth ddiolch i’r  Brifysgol am y bartneriaeth adeiladol ac am bob arweiniad gyda’r gwaith.”

Tîm Ystadau Eithriadol
Mae cynnwys y Tîm Ystadau Eithriadol ar y rhestr fer yn cydnabod gwaith timau ar draws y Brifysgol wrth iddynt gyflawni'r gwaith adnewyddu ar gyfer mannau dysgu ac addysgu.

Yn gyfuniad o fyfyrwyr, staff, ac aelodau o Gyngor y Brifysgol, roedd y prosiect yn cydnabod yr angen am newidiadau mawr yn y ddarpariaeth gofod addysgu.  Crëwyd y brîff drwy ddull cydweithredol wedi'i seilio ar adborth ac adolygiad o gynlluniau adnewyddu blaenorol.

Dechreuwyd ar y broses driphlyg o ailddatblygu ystafelloedd dysgu gwerth £8.5 miliwn yn 2013 ar Gampws Llanbadarn y Brifysgol.

Ar gyfer ail ran y prosiect, ailddatblygwyd darlithfa fwyaf y Brifysgol, labordy addysgu cyfrifiadurol, 12 ystafell addysgu, creu gofod dysgu cymdeithasol, a sefydlu Academi Aberystwyth.

Datblygwyd yr Academi mewn cydweithrediad â phrosiect porth dysgu CADARN rhanbarthol  a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r Academi, sy'n cynnwys labordy cyfryngau, stiwdio ffilm, a gofod addysgu, yn ganolfan newydd sy'n cynnwys  adnoddau dysgu amlgyfrwng gan ddefnyddio sain, fideo ac animeiddio i gyfoethogi'r profiad dysgu i fyfyrwyr.

Daw trydydd cam terfynol y prosiect i ben ym mis Awst 2015 drwy gwblhau’r adnewyddu o’r holl ofod y gellir eu neilltuo’n ganolog ar brif gampws Penglais.

Tîm Adnoddau Dynol Eithriadol
Mae'r gwaith a wnaed gan y Brifysgol i weithredu cynllunio gweithlu’r Brifysgol yn cael ei gydnabod yn y categori Tîm Adnoddau Dynol Eithriadol.

Gan gydnabod yr angen i newid ac addasu er mwyn cwrdd â gofynion newid yn natur y busnes, mae'r Brifysgol wedi gweithio i yrru strategaethau arloesol i gydnabod a gwobrwyo perfformiad staff, mynd i’r afael â than-gynrychiolaeth o ferched mewn swyddi academaidd a rheolaethol uwch, a chyflwyno mentrau i gefnogi lles staff.

Cafodd y broses 'paru a slotio', a ddatblygwyd i leihau’r angen i osod staff oedd mewn perygl o gael eu diswyddo, gydnabyddiaeth drwy gyrraedd y rhestr fer ar gyfer menter Cysylltiadau Gweithwyr y Flwyddyn y CIPD.

Roedd y gwobrwyo a’r mentrau cydnabyddiaeth yn cynnwys cyflwyno band cyflog athrawol, gyda dilyniant yn dibynnu ar berfformiad. Yn 2014, daeth y dystiolaeth gyntaf bod y broses hyrwyddiadau academaidd a newidiwyd yn sylweddol yn 2012 i gydnabod rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth ac addysgu yn ogystal â gwaith ymchwil, wedi arwain at newid diwylliannol y rhagwelom gyda chynnydd yn nifer y merched yn gwneud cais ac yn cael dyrchafiad.

Dyfarnwyd gwobr Rhyw peilot y Marc Cydraddoldeb (GEM) i’r Brifysgol yn 2014 a chafwyd canmoliaeth am y broses fentora a ddefnyddiwyd yn y broses dyrchafiadau academaidd. Dyfarnwyd y Wobr Athena SWAN i’r Brifysgol yn 2014.

Dyfarnwyd y Safon Iechyd Gorfforaethol Efydd ar gyfer y Mentrau Lles Iechyd. Roedd hyn yn dilyn gweithredu'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr - ar ôl gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno cynllun, menter a arweiniodd at wobr CIPD yn ‘Rheoli AD ar draws y ffiniau’ yn 2012.

Tîm Llyfrgell Eithriadol
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd ar y rhestr fer am ei gwaith ar system rheoli  llyfrgell newydd sy’n cael ei rhannu mewn cyflwyniad ar y cyd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Mae hyn yn cydnabod prosiect y Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru i gaffael a gweithredu system rheoli llyfrgell dwyieithog, cenhedlaeth nesaf a gynhelir yn y cwmwl , ac roedd yn cynnwys yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Bydd y prosiect yn sicrhau manteision ariannol i bob sefydliad sy'n cymryd rhan drwy arbedion cost caffael ar y cyd a buddion anariannol drwy well profiad i’r defnyddiwr, cydweithio a rhannu profiad ac adnoddau.

Wrth sôn am y rhestr fer, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rwyf yn wirioneddol falch bod ymdrechion cydweithwyr a fu’n gweithio gyda'n cymuned leol, ein myfyrwyr, a gyda’n staff wedi cael eu cydnabod gan Wobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education.

"Mae'r THELMAs yn wobrau cystadleuol iawn sy'n cydnabod rhagoriaeth yn ein sector. Rwy'n arbennig o falch bod y Brifysgol wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethau yr ydym wedi bod yn eu datblygu, sef cydnabod a gwobrwyo ein cydweithwyr, gwaith oedd dirfawr angen ei wneud ar ein stad, allgymorth ac effaith ein hymchwil rhagorol, a gwasanaethau dwyieithog rhagorol i staff a myfyrwyr. Mawr obeithiaf, ac edrychaf ymlaen at ddysgu y byddwn yn llwyddiannus yn y noson wobrwyo ym mis Mehefin!

Bydd enillwyr y gwobrau yn cael eu datgelu mewn noson wobrwyo fawreddog yng Ngwesty'r Grosvenor House, Llundain ar ddydd Iau 18 Mehefin.

AU13715