Beth am ymweld â Diwrnod Agored Rhithwir Prifysgol Aberystwyth

24 Ebrill 2015

Mae cyfle i ddarpar fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig profi’r hyn sydd gan Brifysgol Aberystwyth i'w gynnig o gysur eu cartrefi eu hunain ar nos Iau 30 Ebrill, pan fydd y Brifysgol yn cynnal ei Diwrnod Agored Rhithwir.

Rhwng 6 ac 8 yr hwyr bydd darpar fyfyrwyr yn gallu mewngofnodi a dysgu am bob agwedd o fywyd myfyriwr yn Aberystwyth, a gofyn cwestiynau i fyfyrwyr cyfredol a staff drwy ddefnyddio ‘sgwrsio byw’.

Ymhlith y meysydd a gwmpesir gan y Diwrnod Agored Rhithwir mae; Gwneud Cais i Aberystwyth, Ffioedd ac Ariannu, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau, Llety, y Gwasanaeth Gyrfaoedd, Undeb y Myfyrwyr a Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr.

Bydd cyfle hefyd i ddilyn teithiau rhithwir o amgylch llety a champws y Brifysgol.

Bydd darpar fyfyrwyr hefyd yn gallu dewis a ydynt am i’w hymweliad i fod drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae'r Diwrnod Agored Rhithwir yn gyfle i ddarpar fyfyrwyr, sydd ddim yn medru mynychu’r diwrnodau agored arferol, i weld yr hyn sydd gan Brifysgol Aberystwyth i’w gynnig iddynt. Mae’n gyfle gwych i wrando ar sgyrsiau a gweld y campws a’r llety, yn ogystal â gofyn i fyfyrwyr presennol beth sy'n gwneud eu profiad yn y Brifysgol yn Aberystwyth mor arbennig.”

Gall darpar fyfyrwyr sydd am gofrestru ar gyfer y digwyddiad wneud hynny hyd at ddiwrnod y digwyddiad ei hun. Ceir rhagor o fanylion am gofrestru yma http://view6.workcast.net/register?pak=7421184184468842.

Yn ogystal â'r Diwrnod Agored Rhithwir, bydd Aberystwyth yn cynnal pedwar Diwrnodau Agored ar y campws eleni, ar ddydd Mercher 1af o Orffennaf, Sadwrn 12fed Medi, Dydd Sadwrn 17eg Hydref a dydd Sadwrn 7fed Tachwedd.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i fynychu'r Diwrnodau Agored ar gael yma http://www.aber.ac.uk/cy/open-days/ .

Mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi dros £100m mewn cyfleusterau dysgu ac addysgu, ymchwil a llety newydd. Mae'r rhaglen fuddsoddi’n cynnwys preswylfeydd myfyrwyr £45m Fferm Penglais, a fydd yn cynnig llety o safon sydd gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol, a £8.1m mewn adnoddau dysgu ac addysgu newydd.

AU13415