‘Middle Powers in World Trade Diplomacy, India, South Africa and the Doha Development Agenda’

Dr Charalampos Efstathopoulos

Dr Charalampos Efstathopoulos

28 Ebrill 2015

Cyhoeddwyd llyfr gan academydd o Brifysgol Aberystwyth sy’n archwilio ymddygiad gwledydd sy'n datblygu tuag at y ffordd y mae economi’r byd yn cael ei reoli.

Awdur y gyfrol Middle Powers in World Trade Diplomacy, India, South Africa and the Doha Development Agenda, a gyhoeddwyd gan Palgrave Macmillan, yw Dr Charalampos Efstathopoulos.

Mae Dr Charalampos Efstathopoulos yn ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Pwerau Newydd sy’n Ymddangos a Threfn Byd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Mae’n arbenigo mewn polisi tramor India a De Affrica, Sefydliad Masnach y Byd, a dulliau damcaniaethol at bwerau canol.

Wrth ganolbwyntio ar Fasnach y Byd, mae'r llyfr yn dangos bod economïau gwledydd sy'n datblygu yn cael eu cynnwys er mwyn sicrhau dylanwad diplomyddiaeth gwledydd canolrym er mwyn llunio trafodaethau ac osgoi argyfyngau.

Mae'r llyfr yn dadlau nad yw diplomyddiaeth canolrymoedd y De yn anelu at drawsnewid Sefydliad Masnach y Byd (WTO), ond yn hytrach, yn diwygio'r sefydliad er mwyn gosod datblygu ar ganol yr agenda.

Gwladwriaethau sofran yw’r canolrymoedd, sydd er nad ydynt yn bwerau mawr, yn ddylanwadol iawn neu’n gymedrol eu dylanwad, ac yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol.

Mae'r llyfr hefyd yn dadlau bod dylanwad bargeinio canolrymoedd y De yn cael ei gyflyru gan ddwy ffactor. Yn gyntaf eu gallu i wneud iawn am ddiffyg arweinyddiaeth y pwerau mawr, a'r gallu i ysgogi gwladwriaethau sy’n dilyn yn y De.

Dwy enghraifft o wledydd sy'n datblygu ac sy'n defnyddio gwahanol ddulliau bargeinio yn eu hymgais i gynyddu eu dylanwad a'u statws yw India a De Affrica.

Mae'r llyfr yn gwneud defnydd helaeth o adnoddau Sefydliad Masnach y Byd.

Gellir cael mynediad llawn i ddogfennau trafod swyddogol, ond nid yw ymchwilwyr wedi manteisio  ar hyn yn y gorffennol.

Mae'r llyfr yn darparu dadansoddiad o ddogfennau Sefydliad Masnach y Byd dros gyfnod o 12 mlynedd.

Dywedodd Dr Efstathopoulos: "Mae'r llyfr yn dangos bod y cysyniad ‘canolrym’ yn berthnasol i ddeall polisïau tramor grymoedd y De a natur eu dylanwad mewn llywodraethu byd-eang.

"Mae'r cysyniad ‘canolrym’ yn caniatáu adnabod rôl ragweithiol grymoedd y De mewn gwahanol gyfundrefnau, tra’n deall eu hawydd am ofal a newid graddol yn hytrach na gwleidyddiaeth adolygiadol."

AU14815