Dathlu hir-wasanaeth staff

Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn y Gwobrau Hir-Wasanaeth gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon.

Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn y Gwobrau Hir-Wasanaeth gyda’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon.

05 Mai 2015

Bu Prifysgol Aberystwyth yn dathlu cyfraniad aelodau staff sydd wedi gwasanaethau’r Brifysgol dros gyfnodau maith mewn Noson Gwobrwyo Gwasanaeth Hir a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae’r Gwobrau, yn gyfle i ddiolch i aelodau staff sydd wedi gweithio i’r Brifysgol am 20, 25, 30 a 40 mlynedd.

Ymysg aelodau staff y Brifysgol fu’n casglu eu gwobrau hir-wasanaeth, roedd y gŵr a’r wraig, Bryn a Rachel Hubbard, y ddau ohonynt wedi gweithio i'r Brifysgol am 20 mlynedd.

Mae Bryn Hubbard yn Gyfarwyddwr Ymchwil a Chyfarwyddwr y Ganolfan Rewlifeg, yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Rachel yn Reolwraig Aelodaeth yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Rachel: "Mae gweithio i’r Brifysgol wedi bod yn bleser mawr. Dw i wedi cyfarfod ac wedi gweithio gyda phobl wych gyda phob dydd yn wahanol - boed yn gynllunio dyfodol y Ganolfan Chwaraeon, neu sesiwn addysgu neu weithio gydag Adnoddau Dynol ar brosiectau ar wahân. Dw i wedi cael y cyfle i eistedd ar y Cyngor a gweld y "darlun mawr" yn ogystal â gweithio gyda Rhwydwaith Cymorth Staff a deall rhai o'r anawsterau ar lefel bersonol. Dw i wedi cyfarfod â rhai myfyrwyr arbennig a’u gweld nhw yn y dosbarthiadau yn ystod eu hamser yma yn Aber a deall sut mae chwaraeon ac ymarfer corff yn darparu cefnogaeth i’r corff ac enaid. Mae’r ugain mlynedd wedi mynd heibio’n gyflym - sy'n dweud y cyfan mewn gwirionedd.”

Dywedodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae'r gwobrau yn gyfle i’r Brifysgol ddiolch i'n staff am y blynyddoedd o wasanaeth a roddwyd i'r Brifysgol. Rydym yn ffodus iawn yn Aberystwyth bod ganom gymaint o aelodau staff neilltuol sydd wedi gweithio gyda'r Brifysgol am gyfnodau hir iawn o amser. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy, ac yn cael ei werthfawrogi yn wirioneddol. "

I gydnabod eu gwasanaeth ac i nodi eu cyfraniad a'u cyfnod yn y Brifysgol, derbyniodd y staff lwyau caru bob un yn y digwyddiad gafodd ei gynnal ar yr 21ain o Ebrill.

AU15415