Llwyddiant gemau argyfwng Ewrop i fyfyrwyr Aberystwyth

(O'r chwith i'r dde): Chris Dennett, Alain Bouwman, Nick Bruetsch, Sam Smales, Grant Alger, Maihanna Murphy, Andrew Gilbert a Ian Goertz, gyda Dr Madeline Carr (canol)

(O'r chwith i'r dde): Chris Dennett, Alain Bouwman, Nick Bruetsch, Sam Smales, Grant Alger, Maihanna Murphy, Andrew Gilbert a Ian Goertz, gyda Dr Madeline Carr (canol)

06 Mai 2015

Profodd dau dîm o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth lwyddiant ysgubol yng ngemau argyfwng Cyber 9/12 gafodd eu cynnal yng Ngenefa ar 22 a 23 o Ebrill.

Sicrhaodd yr israddedigion Iain Bouwman, Christopher Dennett, Sam Smales a Nick Bruetsch eu lle yn y rownd derfynol, ond colli fu eu hanes yn erbyn  tîm cyfansawdd o HEC Lausanne a ETH Zurich yn y Swistir.

Llwyddodd y myfyrwyr ôl-raddedig, Grant Alger, Maihanna Murphy, Andrew Gilbert, a Ian Goertz i gyrraedd y rownd gynderfynol.

Yn ogystal â sicrhau'r ail wobr, dyfarnwyd y wobr am y ‘Cyflwyniad Ysgrifenedig Gorau’  i Bouwman, Dennett, Smales a Bruetsch.

Trefnwyd Cyber 9/12 gan Atlantic Council a chafodd y gystadleuaeth ei chynnal yng Nghanolfan Polisi Diogelwch Genefa.

Dywedodd Alain Bouwman: “Hon oedd un o'r cystadlaethau mwyaf heriol ac anodd i ni fod yn rhan ohoni. Roedd cyflwyno eich argymhellion polisi o flaen panel o arbenigwyr mewn Diogelwch Seiber a chystadlu yn erbyn y prifysgolion gorau eraill, yn golygu bod pwysau mawr arnom. Gall Aberystwyth fod yn falch! Ni fyddem wedi cyflawni hyn heb yr hyfforddiant a chefnogaeth ardderchog gan Madeline Carr!”

Dywedodd Dr Madeline Carr, a fynychodd y gystadleuaeth gyda’r myfyrwyr: “Roeddwn yn disgwyl i’n timau wneud yn dda - maent wedi gweithio'n anhygoel o galed yn y misoedd yn arwain at y gystadleuaeth. Ond roedd yn wefreiddiol eu gweld yn perfformio mor dda yn erbyn cystadleuwyr eraill cryf iawn. Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan wahanol feirniaid yr wythnos hon yn cyfeirio at yr argraff gafodd y timoedd o Aber. Canlyniad anhygoel!

“Mae galw cynyddol am bobl greadigol a deallus i weithio ym maes polisi diogelwch seiber a daeth dau o’r timoedd gorau yn Ewrop o Aber.  Mae gan bob un ohonynt ddyfodol mawr o'u blaenau.”

Llun: (O'r chwith i'r dde): Chris Dennett, Alain Bouwman, Nick Bruetsch, Sam Smales, Dr Madeline Carr, Grant Alger, Maihanna Murphy, Andrew Gilbert a Ian Goertz.

AU14715