Canolfan y Celfyddydau yn cynnal arddangosfa fawreddog Gwobr Portreadau BP

Simon Armitage gan Paul Wright, 2013 © Paul Wright

Simon Armitage gan Paul Wright, 2013 © Paul Wright

13 Mai 2015

Ar hyn o bryd mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnal arddangosfa fawreddog Gwobr Portreadau BP yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.

Dyma’r unig leoliad yng Nghymru sy’n arddangos gwaith y wobr ac mae’n cynnwys astudiaeth anffurfiol a phersonol o ffrindiau a theulu, yn ogystal â delweddau dadlennol o wynebau enwog. Ceir hefyd amrywiaeth o arddulliau ac ymagweddau at y portread paentio cyfoes.

Un o'r 55 cais, yw gwaith y myfyriwr graddedig o Aberystwyth, Edward Sutcliffe, Copycat. Sutcliffe yw enillydd Gwobr Deithio BP 2014, gan guro cystadleuaeth o 2,376 o geisiadau eraill.

Hefyd mae darnau enillwyr gwobrau Oriel Bortreadau Genedlaethol, gan gynnwys ‘Man with a Plaid Blanket’ gan Thomas Ganter, 'Jean Woods',  gan Richard Twose a ‘Mamá gan enillydd Gwobr Artist Ifanc BP Ignacio Estudillo Pérez.

Meddai Eve Ropek, Swyddog Arddangosfeydd: "Rydym yn falch iawn i gynnal yr arddangosfa fawreddog eto. Dyma'r unig un o’i bath yng Nghymru ac  yn un o ddim ond tair arddangosfa yn y Deyrnas Gyfunol. Mae hi’n ganlyniad perthynas gref rhwng Canolfan y Celfyddydau a’r Oriel Bortreadau Genedlaethol (ochr yn ochr â sefydliadau cenedlaethol eraill) dros y blynyddoedd, ac yn un yr ydym yn gobeithio a fydd yn parhau."

Mae'r arddangosfa ymlaen hyd y 30ain Mai.

AU15615