Gwyddonydd o IBERS yn Kathmandu

Pentref Gyanphedi wedi ei ddinistrio ac yn anghysbell iawn - heb unrhyw ffyrdd. Arche Nova oedd y grŵp cymorth cyntaf i gyrraedd ers y ddaeargryn; wedi gyrru am 4 awr a cherdded 2-3 awr i gyrraedd yno

Pentref Gyanphedi wedi ei ddinistrio ac yn anghysbell iawn - heb unrhyw ffyrdd. Arche Nova oedd y grŵp cymorth cyntaf i gyrraedd ers y ddaeargryn; wedi gyrru am 4 awr a cherdded 2-3 awr i gyrraedd yno

22 Mai 2015

Mae Dr Tony Callaghan a gwblhaodd ei PhD yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth yn gynharach eleni yn helpu i sicrhau cyflenwad dŵr glân yn Kathmandu yn Nepal a drawyd gan ddaeargrynfeydd yn ddiweddar.

                               
Mae Tony wedi bod yn cynorthwyo cwmni Almaenig Arche Nova - grŵp sy'n arbenigo mewn sicrhau bod dŵr glân yn cael ei gyflenwi i ardaloedd a drawyd gan drychineb, a sydd yn sefydliad anllywodraethol di-elw. (https://arche-nova.org/en)


Mae pedwar o beirianwyr dŵr Arche Nova yn gweithio gyda grwpiau cymuned lleol ac unigolion i adeiladu a thrwsio systemau puro dŵr sydd wedi eu difrodi, ac i osod system hidlo i gyflenwi'r prif ysbyty yn Bidur, prifddinas rhanbarth Nuwakot.


Dywedodd Dr. Gareth Griffith goruchwyliwr PhD Tony yn IBERS, "Rwy'n hynod o falch o'r hyn y mae Tony yn ei wneud ac yn falch bod y sgiliau a ddysgodd yn ystod ei PhD yn Aber yn gallu cael eu defnyddio i helpu i leddfu problemau pobl Nepal"


Wrth siarad o Nepal dywedodd Tony,
"Gan ddefnyddio’r sgiliau dadansoddi cemegol a biolegol a ddysgais yn ystod fy amser yn Aberystwyth rwyf wedi bod yn cynorthwyo Arche Nova i asesu pa mor yfadwy neu ansawdd yfed y dŵr cyn ac ar ôl puro er mwyn penderfynu a yw'n ddiogel i bobl i'w yfed.”


Mae Tony wedi treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ardal Kathmandu ac mae hefyd wedi bod mewn rhai o'r ardaloedd mwy anghysbell yn Nuwakot, i'r gogledd-orllewin o Kathmandu.


Ychwanegodd, "Er gwaethaf ymateb annigonol y llywodraeth, mae dewrder, cryfder ac undod pobl Nepal, y gwirfoddolwyr twristaidd a llawer o'r sefydliadau cymorth wedi bod yn anhygoel.


Mae Nepal wedi cael ei difrodi a’i difetha gan y daeargrynfeydd yma a dim ond megis cychwyn y mae‘r ymdrech adfer. Fodd bynnag, rwyf eisoes yn cynllunio fy ymweliad y flwyddyn nesaf i fwynhau y lle prydferth hwn yn iawn."


Mae Dr Callaghan yn wreiddiol o’r Iwerddon, a bu'n astudio BSc mewn Microbioleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth  rhwng 2006-2009 a chwblhaodd ei PhD yn Chwefror 2015.

AU17715