Cymru a Phatagonia: 150 o flynyddoedd o etifeddiaeth

Patagonia

Patagonia

02 Mehefin 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd undydd ar ddydd Sadwrn 6 Mehefin i nodi 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa ac i asesu ei hetifeddiaeth.

Cynhelir y Gynhadledd ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol o 9.15 y bore tan 4.30 y prynhawn.  Mynediad am ddim.

Trefnir y gynhadledd, a fydd yn agored i’r cyhoedd, gan Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a Dr Lucy Taylor o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd i’ll dau yn astudio Cymry Patagonia.

Mae Dr Griffiths a Dr Taylor wedi dwyn ynghyd grŵp o arbenigwyr o Gymru a thu hwnt sy'n awyddus i rannu dealltwriaeth yn deillio o deithiau maes ac archifau gyda’r  cyhoedd.

Dywedodd Dr Lucy Taylor: “Mae gan lawer o bobl yng Nghymru ddiddordeb mawr yn y Wladfa Gymreig, felly roeddem yn meddwl y byddai'n syniad gwych i rannu syniadau sy'n cylchredeg yn y byd academaidd gyda'r cyhoedd yn fwy eang - yn enwedig oherwydd y dathliadau 150 mlynedd dros yr haf”.

“Byddwn yn trafod cwestiynau fel: Sut wnaeth y Cymry lunio cymdeithas a thirwedd Patagonia? Sut wnaeth y Wladfa gyfrannu at hunaniaeth Gymreig? A beth yw arwyddocâd y Wladfa Gymreig heddiw?”

Teilwrir y darlithoedd ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus a bydd yn codi cwestiynau ffres a safbwyntiau newydd am y Wladfa Gymreig. Ond mae’r digwyddiad yn fwy na darlithoedd yn unig.

Dywedodd Dr Hywel Griffiths: “Rydym yn gwybod bod pobl yn teimlo'n angerddol am y Wladfa, felly rydym yn awyddus i glywed barn y cyhoedd hefyd. Rydym wedi neilltuo digon o amser ym mhob sesiwn i glywed am eu hatgofion a'u syniadau”.

Mae'r digwyddiad yn cynnwys pedair sesiwn. Mae'r gyntaf yn canolbwyntio ar amgylchedd ffisegol Patagonia; bydd yr ail yn trafod y profiad o setlo yn Y Wladfa; a'r drydedd yn trafod y Wladfa heddiw. Bydd y bedwaredd sesiwn yn drafodaeth agored ar bwysigrwydd ac etifeddiaeth Y Wladfa.

"Er bod hwn yn gyfle i ni ddweud wrth y cyhoedd am ein gwaith ymchwil rydym yn disgwyl i ddysgu llawer oddi wrthyn nhw hefyd!", ychwanegodd Dr Taylor.

Bydd sefydliadau eraill yn cyfrannu at y digwyddiad hefyd, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cylchgrawn Planet, Teithiau Tango Travel a Chymdeithas Pobl Mewn Partneriaeth Aberystwyth-Esquel.

Mae Dr Lucy Taylor yn arbenigo mewn astudiaethau America Ladin yn enwedig mewn dulliau ôl-drefedigaethol a dinasyddiaeth ac yn canolbwyntio ar yr Ariannin yn enwedig. Mae hi'n weithgar iawn mewn Astudiaethau America Ladin yn y DG a hi oedd Llywydd y Gymdeithas ar gyfer Astudiaethau Americana Ladin (2011-13), y gymdeithas academaidd fwyaf yn y maes yn Ewrop. Mae Lucy hefyd yn gyd-olygydd cyfnodolyn arobryn y Bulletin of Latin American Research ac mae'n aelod o Banel America Ladin a’r Caribi yr Academi Brydeinig.

Mae Dr Hywel Griffiths yn ddaearyddwr ffisegol yn arbenigo mewn llifogydd a geomorffoleg afonol, yn enwedig defnyddio cofnodion hanesyddol er mwyn ail-greu nodweddion amgylcheddol y gorffennol a pherthynas pobl a’r tirlun. Mae’n is-olygydd ar y cyfnodolyn Gwerddon.
AU16715