Wythnos Cychwyn Busnes 2015

Rhai o gyfranogwyr Wythnos Dechrau Busnes gyda’r Rheolwr Menter, Tony Orme.

Rhai o gyfranogwyr Wythnos Dechrau Busnes gyda’r Rheolwr Menter, Tony Orme.

02 Mehefin 2015

Mae hi’n Wythnos Cychwyn Busnes 2015 ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r Wythnos a drefnir gan Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, wedi hen ymsefydlu yn y rhaglen o gymorth menter a gynigir ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae’r wythnos yn cynnwys cyfres o weithdai a chyflwyniadau, sydd yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr, graddedigion, staff ac eraill sydd â diddordeb mewn cychwyn busnesau i droi syniad da yn fenter busnes lwyddiannus newydd.

Bydd y sesiynau ar ffurf ddwys "gwersyll hyfforddi", yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan cynnwys cynllunio busnes; cyllid; marchnata; rhwydweithio a diogelu Eiddo Deallusol.

Bydd cyflwyniadau ar y materion busnes hyn, a roddir gan bartneriaid o'r asiantaeth fenter leol, Antur Teifi, yn cyd-fynd â gweithdai gyda busneswyr lleol llwyddiannus. Bydd fformat yr wythnos hefyd yn annog rhwydweithio rhwng y darpar fentrwyr sy'n bresennol, a bydd hyn yn fantais ychwanegol o gymryd rhan.

Dywedodd Aurelie Wibaux, a aeth i'r digwyddiad y llynedd: “Roedd Wythnos Cychwyn Busnes 2014 wedi'i threfnu'n dda ac roedd hi'n ddiddorol iawn. Roedd ystod eang o bynciau yn cael eu trafod ac fe'm helpiodd i gael gwell dealltwriaeth am gychwyn busnes. Dysgais lawer ac roedd yr holl sesiynau yn ddigon clir imi eu deall er gwaethaf y ffaith nad oedd gennyf ddim gwybodaeth flaenorol am fusnes na rheolaeth. Erbyn hyn rwy'n deall yn well yr hyn y mae angen ei ystyried a beth i'w wneud i gychwyn fy musnes fy hunan mewn ychydig o flynyddoedd.”

Dywedodd y Rheolwr Menter, Tony Orme: “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal wythnos a fydd yn cynnig gwybodaeth ac ysbrydoliaeth, ac sy'n ddigon hyblyg i bobl gael manteisio ar y rhaglen gyflawn o sesiynau, neu i ddod ar gyfer pynciau penodol sydd o ddiddordeb arbennig iddynt”.

Mae Wythnos Cychwyn Busnes yn rhad ac am ddim ac fe'i cynhelir yn y Ganolfan Ddelweddi ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i:  http://www.aber.ac.uk/cy/rbi/staff-students/business-start-up/