£2.4 miliwn ar gyfer ymchwil i doddi llen iâ

Wyneb tywyll yr iâ ger ymyl ddeheuol Llen Iâ’r Ynys Las

Wyneb tywyll yr iâ ger ymyl ddeheuol Llen Iâ’r Ynys Las

09 Mehefin 2015

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o astudiaeth fawr newydd i’r ffactorau sy'n dylanwadu ar y modd mae Llen Iâ'r Ynys Las yn toddi.

Bydd Dr Tristram Irvine-Fynn o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gydag ymchwilwyr ym mhrifysgolion Bryste, Leeds a Sheffield ar yr astudiaeth sydd wedi derbyn £2.4 miliwn gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y Deyrnas Gyfunol (NERC).

Nid yw cynhesu byd-eang yn ar ei ben ei hun yn ddigon i gyfrif am y toddi cynyddol gyflym sy’n digwydd i len iâ’r Ynys Las. Mae ffactorau eraill yn achosi i wyneb y llen iâ i dywyllu, a chanlyniad hyn yw ei bod yn toddi yn gyflymach. Bydd y prosiect yn ymchwilio i sut mae microbau’n ffynnu ar eira sy’n toddi ac arwynebeddau iâ, ac yn tywyllu wyneb y llen rew o ganlyniad.

Mae bywyd yn bodoli lle bynnag y ceir dŵr hylifol ar wyneb y Ddaear, ac nid yw arwynebau llen iâ yn eithriad. Mae un diferyn o iâ wedi toddi yn cynnwys hyd at 10,000 o ficrobau. Dim ond yn ddiweddar y dangosodd microbiolegwyr bod y micro-organebau hyn yn medru tyfu a lluosi neu 'flodeuo' ar iâ sy’n toddi.

Dywedodd yr Athro Martyn Tranter, arweinydd y prosiect a Phrif Ymchwilydd tîm Bryste: “Ein nod yw deal beth sy’n rheoli twf a ffyniant y micro-organebau.”

Mae llawer o’r organebau bychain iawn hyn ar ia rhewlifoedd yn cynnwys cloroffyl gwyrdd, megis mewn planhigion, er mwyn dal golau'r haul a thyfu, tra bod rhai yn  datblygu bloc-haul tywyll ei liw i’w diogelu rhag difrod gan haul ffyrnig 24 awr y dydd yr haf Arctig. Pan fydd y microbau hyn yn blodeuo yn ystod yr haf, gallant droi wyneb gwyn a glas golau'r llen iâ yn wyrdd-borffor neu’n ddu. Mae'r newid hwn mewn lliw yn achosi i wyneb y llen iâ i gynhesu a thoddi lawer yn gynt.

Gyda’i arbenigedd mewn “tywyllu biolegol” rhewlifoedd yr Arctig, bydd Dr Irvine-Fynn yn rhan o'r gwaith o fonitro newidiadau yn y nifer o ficrobau ar wyneb yr iâ yn ogystal ag amrywiadau mewn lliw, strwythur a thopograffeg yr iâ drwy gydol tymor toddi’r haf.

Dywedodd Dr Irvine-Fynn: “Mae newidiadau biolegol a ffisegol ar wyneb y rhew yn effeithio ar y modd y mae’n adlewyrchu golau, neu 'albedo', sydd bellach yn cael ei gydnabod fel ffactor allweddol mewn graddfa doddi Llen Iâ’r Ynys Las, o dan unrhyw hinsawdd yn y dyfodol. Mae deall y newidiadau hyn yn hollbwysig oherwydd eu heffaith ar gynhyrchu dŵr tawdd, sy'n cyfrannu at y cynnydd yn lefel y môr a ragwelir dros y degawdau nesaf.”

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y gwyddonwyr yn astudio'r microbau hyn ac yn gwerthuso sut mae eu dosbarthiad a’u tyfiant yn cyfuno â ffactorau eraill i dywyllu wyneb yr iâ a chynyddu graddfa doddi Llen Iâ’r Ynys Las.

Mae'r prosiect yn cynnwys tîm o wyddonwyr rhyngwladol o Ddenmarc, yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Gwlad Belg, Canada, y Weriniaeth Tsiec a Siapan.

Bydd Dr Irvine-Fynn yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr o Brifysgol Sheffield, Labordy ‘Jet Propulsion’ NASA, KU Leuven Gwlad Belg, Prifysgol Dechnegol Denmarc ac Arolwg Daearegol Denmarc (GEUS) i ddatblygu modelau cyfrifiadurol newid sy’n efelychu’r ffordd y mae iâ yn adlewyrchu golau.

Mae'r gwaith yn adeiladu ar ganfyddiadau gwaith maes a wnaed eisoes ar Len Iâ'r Ynys Las gan bartneriaid yn GEUS fel rhan o Prosiect Dark Snowhttp://darksnow.org/.

Yn y pen draw bydd data o'r prosiect yn cael ei fwydo i mewn i fodel cyfrifiadurol sy’n efelychu toddi ar gyfer y llen iâ gyfan, a bydd hyn yn gymorth i wella rhagolygon o newidiadau tymor hir yng nghyfaint Llen Iâ’r Ynys Las a chynnydd posibl yn lefel y môr yn y dyfodol.

AU17515