Datgelu hanes bridiau defaid cynhenid Cymreig

Sarah Beynon, myfyrwraig PhD IBERS gyda defaid Beulah

Sarah Beynon, myfyrwraig PhD IBERS gyda defaid Beulah

22 Mehefin 2015

Bydd cyfuno technegau gwyddonol cyfoes â uniondeb genetig bridiau defaid cynhenid Cymreig yn datblygu diadelloedd masnachol y dyfodol.

Mae ffermio defaid yn un o agweddau pwysicaf amaethyddiaeth yng Nghymru gan gyfrannu £230 miliwn i economi y DG yn gyffredinol yn flynyddol; a mae bridiau defaid cynhenid Cymreig yn adnodd genetig amhrisiadwy ac unigryw ar gyfer rhaglenni bridio a chadwraeth i’r dyfodol.

Dyma prif gasgliad papur a gyhoeddwyd gan BMC Genetics yr wythnos hon gan Sarah Beynon, myfyrwraig PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth; Dr Gancho Slavov IBERS, a Dr Denis Larkin gynt yn IBERS sydd bellach yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Llundain (RVC).

Mae'r prosiect ymchwil tair blynedd, a noddwyd dan y rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) a Hybu Cig Cymru, wedi mapio hanes genetig 18 o’r bridiau cynhenid o ddefaid Cymreig yn nodi pedair is-boblogaeth enetig wahanol, gyda'r rhan fwyaf o fridiau mynydd yn ffurfio grŵp penodol, gymharol debyg.

 Dywedodd ymchwilydd PhD IBERS, Sarah Beynon, a wnaeth y gwaith ymchwil: "Mae'r canfyddiadau hyn yn darparu sail ar gyfer astudiaethau cysylltu ar draws y genom yn y dyfodol ac yn gam cyntaf tuag at ddatblygu strategaethau bridio sydd yn derbyn cymorth genomeg yn y DG."

Dywedodd Dr Denis Larkin, Darllenydd mewn Genomeg Gymharol yn yr RVC, a arweiniodd yr ymchwil "Mae uniondeb genetig y bridiau cynhenid hyn a'r technegau gwyddonol cyfoes o ddethol genetig yn cynnig cyfle i fridwyr yng Nghymru i ddatblygu'r diadelloedd masnachol fydd yn debyg i fridiau masnachol fel Texel ond sydd wedi addasu yn well i'r amgylchedd lleol.

Mae nifer o ffermwyr yn credu bod bridiau Cymreig yn frodorol a wedi addasu yn lleol. Mae ein data ni yn awgrymu tras gyffredin rhwng y bridiau Cymreig cynhenid a gwahanol fridiau Ewropeaidd, ond mae'r bridiau Cymreig hefyd yn amrywiol iawn o ystyried maint isel i gymedrol eu poblogaeth, gan ffurfio o leiaf pedwar grŵp genetig gwahanol."

Cafodd defaid eu dofi 10,000 o flynyddoedd yn ôl, ond ychydig oedd yn hysbys cyn hyn am hanes, amrywiaeth genetig a pherthynas rhwng bridiau Cymreig â rhai Ewropeaidd.  Mi fydd deall y berthynas rhwng bridiau o fewn Cymru, y DG a gweddill Ewrop yn cynorthwyo strategaethau bridio. Nod y strategaethau hyn yw gwella cynhyrchu drwy gostau is, gwell effeithlonrwydd, gwella iechyd anifeiliaid a monitro mewnfridio.

Bu’r tîm yn dadansoddi  data genoteip - y gwahaniaethau genetig rhwng y bridiau Cymreig – a chymharu hyn â data a gasglwyd o fridiau defaid ledled y byd gan brosiect Consortiwm Rhyngwladol Genom Defaid HapMap.

Defnyddiwyd 353 o anifeiliaid unigol o'r 18 o fridiau defaid cynhenid Cymreig. Dangosodd y canfyddiadau bod defaid Cymreig yn rhannu mwy o ddilyniannau DNA tebyg gyda nifer o fridiau eraill o bob rhan o Ewrop na gyda bridiau o Asia ac Affrica.

Mae rhai bridiau, megis y defaid Mynydd Cymreig Duon, a’u hanes genetig yn mapio yn ôl i Sgandinafia, sy'n golygu bod eu hanes genetig wedi ei ddylanwadu'n drwm gan ddefaid a ddaeth i Gymru gyda’r Llychlynwyr (Vikings).  Mae bridiau eraill, megis yr Wyneb Gwyn Llanymddyfri, a’i gwreiddiau yn ymestyn yn ôl hyd yn oed ymhellach  i goloneiddio Prydain gan y Rhufeiniaid.

Mae'r astudiaeth hyd yn oed wedi darganfod fod un brîd penodol o ddefaid, yn unigryw i Ben Llŷn, yn gallu olrhain ei geneteg yn ôl i un ddiadell fechan o ddefaid yn Galway yn Yr Iwerddon o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae hyn yn dangos bod masnachwyr a ffermwyr o'r rhan honno o Iwerddon yn dod i Gymru at ddibenion amaethyddol fwy na 200 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Dr Gancho Slavov, Darlithydd mewn Genomeg Ystadegol yn IBERS a cyd-oruchwyliwr PhD Ms Beynon: "Mae'r ymchwil hwn wedi darparu cipolwg cychwynnol i darddiad a mudiad bridiau defaid yng Nghymru sydd wedi goroesi. Yn bwysicach fyth, bydd y wybodaeth fanwl sy'n deillio am strwythur genetig bridiau defaid yng Nghymru yn anhepgorol ar gyfer gweithgareddau bridio a chadwraeth yn y dyfodol.”

IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o lefel genynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU18315