Urddo cyn Brifweinidog Awstralia, Julia Gillard, yn Gymrawd

Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, yr Anrhydeddus Julia Gillard (Canol) gyda’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor (chwith) a Dr Jenny Mathers, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol (dde)

Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, yr Anrhydeddus Julia Gillard (Canol) gyda’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor (chwith) a Dr Jenny Mathers, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol (dde)

01 Gorffennaf 2015

Urddwyd yr Anrhydeddus Julia Gillard, y 27ain o Brif Weinidogion Awstralia, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig ar nos Fawrth 30 Mehefin.

Cymrawd Prifysgol Aberystwyth, yr Anrhydeddus Julia Gillard (Canol) gyda’r Athro April McMahon, Is-Ganghellor (chwith) a Dr Jenny Mathers, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol (dde).

Roedd Ms Gillard yn y Brifysgol i draddodi darlith gyhoeddus ar y pwnc “A Conversation with Julia Gillard:  Education and Our Future”.

Rhoddir Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn anrhydeddu unigolion sydd â chyswllt ag Aberystwyth neu â Chymru yn gyffredinol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu maes.

Cafodd Ms Gillard ei chyflwyno gan Dr Jenny Mathers, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

AU20915