Anrhydeddu deuddeg yn ystod Seremonïau Graddio 2015

Roedd Rhod Gilbert yn un o’r Cymrodyr a gyflwynwyd yn ystod Graddio 2014.

Roedd Rhod Gilbert yn un o’r Cymrodyr a gyflwynwyd yn ystod Graddio 2014.

06 Gorffennaf 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Bydd dwy anrhydedd newydd yn cael eu cyflwyno yn y Seremonïau Graddio eleni; Doethuriaeth honoris causa a Baglor yn y Celfyddydau honoris causa / Baglor mewn Gwyddoniaeth honoris causa.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd a dwy radd Baglor Er Anrhydedd.

Mae Doethuriaethau Er Anrhydedd yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir graddau Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Dywedodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Graddio yw uchafbwynt y flwyddyn yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, pan fyddwn yn dathlu gwaith caled a’r hyn a gyflawnwyd gan ein graddedigion, ac yn dymuno’n dda iddynt wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd. Mae hefyd yn gyfle i nodi llwyddiant unigolion sydd wedi rhagori yn eu meysydd penodol ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth, i Gymru a thu hwnt. Rwyf wrth fy modd fod casgliad mor nodedig a diddorol o Gymrodyr newydd wedi derbyn ein gwahoddiad; a braint yw cael cyflwyno ein graddau Doethuriaeth a Baglor er Anrhydedd cyntaf. Rwy’n siŵr y bydd ein myfyrwyr a’n staff yn falch o gael rhannu llwyfan gyda hwy yn ystod Wythnos Graddio.”

Cyflwynir y canlynol yn y seremonïau Graddio eleni.

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd
Eurwen Richards
Ar ôl astudio a gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth aeth Eurwen ymlaen i fod y Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol. Ar ôl gweithio yn uned laeth y Brifysgol, aeth ymlaen i weithio fel uwch dechnolegydd bwyd yn Marks & Spencer, gan arbenigo mewn cynnyrch llaeth, ac yn Dairy Crest fel Pennaeth yr Adran Sicrhau Ansawdd. Bu Eurwen yn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth ac mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobrau gan y cyrff canlynol: Bwrdd Caws Prydain (Cyflawniad Oes): Gwobrau Caws Prydain (Person Caws y Flwyddyn) a Gwobrau Caws y Byd (Cyfraniad Eithriadol i Gaws).

Cyflwynir Eurwen Richards yn ystod Seremoni 1 ar fore dydd Mawrth, 14 Gorffennaf

Yr Athro Robin Williams CBE
Yr Athro Robin Williams oedd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe rhwng 1994-2003. Fel ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, dyfeisiau electronig uwch a nanodechnoleg, fe’i gwnaed yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a dyfarnwyd CBE iddo yn 2004 am ei gyfraniad i ymchwil mewn addysg uwch. Mae’n Is-Gadeirydd ‘Techniquest’, yn aelod Cyngor o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru, HEFCW, Cynllun Addysg Beirianneg Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Athro Williams hefyd yn aelod Cyngor o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac yn aelod o fwrdd ymgynghorol y Ganolfan Uwch Ddeunyddiau a Dyfeisiau Ffwythiannol Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwynir yr Athro Robin Williams yn ystod Seremoni 1 ar fore dydd Mawrth, 14 Gorffennaf

Yr Athro Miguel Alario-Franco
Mae’r Athro Franco wedi dal swydd bwysig Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen. Bu’n Bennaeth (ac yn ddiweddarach yn Ddeon Gwyddor Gemegol) Cemeg Cyflwr Soled Anorganig yn yr Universidad Complutense Madrid (UCM), lle mae bellach yn Athro Emeritws. Bu’n gweithio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, am ddwy flynedd a hanner o 1972 ymlaen.  Mae hefyd yn Academydd Er Anrhydedd yn Academi Gwyddorau Colombia,  sylfaenydd y Grŵp Cemeg Cyflwr Solet yn UCM, a sylfaenydd a llywydd cyntaf Grŵp Cemeg Cyflwr Solet Cymdeithas Frenhinol Cemeg Sbaen.  Mae hefyd wedi ysgrifennu pedwar patent a 290 papur ymchwil sydd wedi eu dyfynnu dros 3000 o weithiau.

Cyflwynir yr Athro Miguel Alario-Franco yn ystod Seremoni 2 ar brynhawn dydd Mawrth, 14 Gorffennaf.

Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth
Mae’r Arglwydd Bourne (LLB a LLM) yn Arglwydd Preswyl (Gweision EM) (Chwip) ac yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.  Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015, cafodd ei benodi yn Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru. Mae’r Arglwydd Bourne yn cynnal cysylltiad sylweddol gyda’r Brifysgol. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymru Prifysgol Aberystwyth ac yn Llywydd Anrhydeddus Conservative Future Aberystwyth.

Cyflwynir yr Arglwydd Bourne yn ystod Seremoni 3 ar fore dydd Mercher, 15 Gorffennaf.

Debbie Moon
A hithau’n gyn-fyfyrwraig yn Adran Ddrama’r Brifysgol, mae Debbie wedi byw yn yr ardal ers diwedd y 1980au, gan adeiladu portffolio o ysgrifennu ac ysgrifennu ar gyfer y sgrin. Hi greodd y gyfres deledu a enwebwyd am BAFTA, WolfBlood, a hi yw prif awdur y gyfres honno. Mae’r drydedd gyfres ar CBBC ar hyn o bryd.  Cyfrannodd Debbie at ail gyfres Y Gwyll ac mae ganddi gysylltiadau cryf â’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a’r Brifysgol ehangach.

Cyflwynir Debbie Moon yn ystod Seremoni 7 ar fore dydd Gwener, 17 Gorffennaf.

Dr Francesca Rhydderch
Graddiodd Dr Francesca Rhydderch mewn Ieithoedd Modern o Goleg Newnham Caergrawnt, ac mae ganddi PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries restr hir Gwobr Nofel Gyntaf yr Authors' Club ac enillodd Wobr Ffuglen Wales Book of the Year yn 2014. Roedd hefyd ar restr fer Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn yr un flwyddyn. Mae’n gyn-olygydd y New Welsh Review, ac yn Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyflwynir Dr Francesca Rhydderch yn ystod Seremoni 7 ar fore dydd Gwener, 17 Gorffennaf.

Dr Lyn Evans
Mae Lyn Evans wedi treulio ei yrfa gyfan ym maes ffiseg egni uchel a chyflymwyr gronynnau, gan gyfrannu i holl brosiectau mawr y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN).  Ers 1993, bu’n arwain y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu'r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr (LHC).  Mae bellach yn athro gwadd yng Ngholeg Imperial Llundain ac yn Gyfarwyddwr y prosiect Peiriant Gwrthdaro Llinellol ar y Cyd. Ymhlith ei anrhydeddau niferus, mae’n  gymrawd o Gymdeithas ffisegol America a’r Gymdeithas Frenhinol.  Yn 2012 dyfarnwyd iddo’r Wobr Ffiseg Sylfaenol Arbennig am ei gyfraniad tuag at ddarganfod yr Higgs boson. Yn 2014, derbyniodd y Wobr Dewi Sant gyntaf oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Cyflwynir Dr Lyn Evans yn ystod Seremoni 8 ar brynhawn dydd Gwener, 17 Gorffennaf.

Iolo Williams
Mae Iolo Williams yn frodor o Lanwddyn yng ngogledd Powys.  Ar ôl cwblhau gradd mewn ecoleg ym Mholytechnig Gogledd-ddwyrain Llundain, gweithiodd ym maes coedwigaeth ac ar fferm fynydd cyn ymuno â’r RSPB yn 1985. Ar ôl bron i 15 mlynedd yn y swydd, dechreuodd weithio i BBC Wales a S4C. Yn ogystal â dros 20 o gyfresi ar gyfer BBC Wales a S4C, mae wedi cyflwyno sawl cyfres rhwydwaith, gan gynnwys Birdman, Nature’s Top 40, Wild Wales a dros y 6 mlynedd ddiwethaf, Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch.

Cyflwynir Iolo Williams yn ystod Seremoni 8 ar brynhawn dydd Gwener, 17 Gorffennaf.

Graddau Doethur Er Anrhydedd
Dylan Iorwerth
Mae Dylan Iorwerth yn newyddiadurwr ac yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio, ymunodd Dylan â’r Wrexham Leader a bu’n gweithio i Adran Newyddion BBC Radio Cymru cyn cael ei benodi’n ohebydd gwleidyddol BBC Cymru yn Llundain. Roedd yn gyd sylfaenydd y papur Sul Cymraeg Sulyn, a’r cylchgrawn wythnosol Golwg.  Mae’n Brifardd sydd wedi ennill nifer o wobrau llenyddol yn yr Eisteddfod; y Goron yn 2000, y Fedal Ryddiaith yn 2005 a’r Gadair yn 2012. Mae’n awdur ac yn gyflwynydd radio a theledu. Erbyn hyn, Dylan yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf sy’n cyhoeddi Golwg a’r gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.

Cyflwynir Dylan Iorwerth yn ystod Seremoni 3 ar fore dydd Mercher, 15 Gorffennaf.

Yr Athro Huw Cathan Davies OBE
Graddiodd yr Athro Huw Cathan Davies gyda Gradd Baglor mewn Mathemateg Gymhwysol o Brifysgol Aberystwyth yn 1965.  Ar ôl gadael Aberystwyth, astudiodd yng Ngholeg Imperial cyn derbyn ei ddoethuriaeth o Brifysgol Llundain.  Aeth ymlaen i weithio fel darlithydd yn Adran Meteoroleg Prifysgol Reading ac fel ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Ymchwil Cenedlaethol y Swistir, Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, ac mae’n Gymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol.

Cyflwynir yr Athro Huw Cathan Davies yn ystod Seremoni 5 ar fore dydd Iau, 16 Gorffennaf.

Graddau Baglor Er Anrhydedd
Bryn Jones
Mae Bryn Jones yn gydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau, grŵp y cynorthwyodd i'w sefydlu ar ôl i Cymunedau’n Gyntaf ddod i ben. Mae'n parhau i gynorthwyo pobl yn eu cymuned, gan ddenu agos at hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid.  Astudiodd Bryn yn Ysgol Gelf Caerfyrddin cyn treulio 13 blynedd yn gweithio yn Uned Iechyd Meddwl Ymddiriedolaeth y GIG yn Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr ‘HAUL’ - Grŵp Celfyddydau a Gofal Iechyd lleol a sefydlwyd yn y 1990au. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Cymuned y Borth ac yn aelod cynorthwyol o Wylwyr y Glannau ers 10 mlynedd, gan dderbyn tystysgrif am ei wasanaeth hir.

Cyflwynir Bryn Jones yn ystod Seremoni 6 ar brynhawn dydd Iau, 16 Gorffennaf.

Rhian Phillips
Fel Cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug, mae gan Rhian Phillips hanes hir o ymrwymiad i addysg gynradd yn ardal Aberystwyth.  Mae’n angerddol dros ddarparu addysg o safon ragorol i ddisgyblion, drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu yn y dosbarth a thu hwnt.  Fel un a fu’n dadlau dros ddimensiwn byd-eang mewn addysg, cafodd ei phenodi yn Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru gan y Cyngor Prydeinig, ac mae wedi teithio yn helaeth ar draws Ewrop gan gyflwyno mewn cynadleddau a seminarau yn hyrwyddo Dinasyddiaeth a Dysgu Byd-eang.

Cyflwynir Rhian Phillips yn ystod Seremoni 4 ar brynhawn dydd Mercher, 15 Gorffennaf.

 

AU11315