Lansio apiau addysgiadol newydd

(Chwith i’r Dde) Disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth Ioan Mabbutt, Lleucu Siencyn, Cerian Williams a Modlen Gwynne yn dathlu lansio’r apiau newydd yng nghwmni Aled Morgan, Athro yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth; Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr CAA; Delyth Ifan, Golygydd/Rheolwr Projectau, CAA; a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth.

(Chwith i’r Dde) Disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth Ioan Mabbutt, Lleucu Siencyn, Cerian Williams a Modlen Gwynne yn dathlu lansio’r apiau newydd yng nghwmni Aled Morgan, Athro yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth; Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr CAA; Delyth Ifan, Golygydd/Rheolwr Projectau, CAA; a Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth.

08 Gorffennaf 2015

Mae un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf Cymru, CAA (Cyhoeddwr Adnoddau Addysg) Prifysgol Aberystwyth, wedi lansio dau ap Cymraeg newydd ar gyfer ysgolion cynradd – Gwastraff a Sgìl-iau.

Cafodd yr apiau, sydd ar gael i’w lawrwytho yn rhad ac am ddim ar gyfer teclynnau Apple ac Android, eu lansio gan CAA yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar ddydd Mercher yr 8fed o Orffennaf.

Mae’r apiau newydd yn seiliedig ar lyfrau a gyhoeddwyd eisoes gan CAA, a’r bwriad yw annog disgyblion i wella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd mewn ffordd sydd yn berthnasol iddynt.

Mae Gwastraff, gan Menna Beaufort Jones, yn rhan o Gyfres y Gwybodyn, sef pecyn o lyfrau ffeithiol ar gyfer plant 5-7 oed, sy’n meithrin a datblygu hoffter dysgwyr o ddarllen, yn gwella eu sgiliau siarad a gwrando, ac yn eu hannog i chwilio am ragor o wybodaeth. Bydd yr ap yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’r pecyn, gan ganiatáu i ddisgyblion ymarfer eu sgiliau darllen a chynyddu eu gwybodaeth gyffredinol mewn modd rhyngweithiol, hwyliog.

Llyfr sy’n hyrwyddo ac atgyfnerthu sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg i ddisgyblion hŷn Cyfnod Allweddol 2 yw Sgìl-iau, gan Meinir Ebbsworth, ac mae’r ap newydd yn adeiladu ar hyn drwy gynnig gemau iaith a rhifedd mewn pedair ardal liwgar, gyffrous: Parc Antur, Canolfan Adloniant, Campau Cymru a’r Maes Awyr.

Dywedodd Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr CAA: “Mae’n bwysig bod plant yn mwynhau’r broses o ddysgu, neu buan iawn y byddan nhw’n colli diddordeb. Mae’r apiau hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion wneud yr hyn sy’n naturiol iddyn nhw, sef chwarae ar declynnau digidol, tra ar yr un pryd yn gwella eu sgiliau ieithyddol a mathemategol ac yn dysgu ychydig o ffeithiau newydd hefyd.”

Croesawodd Clive Williams, Prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth y datblygiadau: “Gyda’r newidiadau diweddaraf i’r cwricwlwm yn sgil cyhoeddi Adroddiad Donaldson, mae dysgu digidol yn dod yn arf pwysig i holl staff addysgu i’w feistroli ac i’w drosglwyddo i’r disgyblion, fel eu bod yn dod yn ddysgwyr annibynnol a medrus drwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf.  Mae’r apiau yma yn gyfrwng effeithiol ac yn ychwanegiad pwysig i’r deunydd electroneg sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, a hoffwn longyfarch CAA ar ei gwaith.”

Mae CAA yn cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac yn Saesneg – yn llyfrau, CDau, CD-ROMau rhyngweithiol, pecynnau aml-gyfrwng a gweithgareddau digidol. Cyhoeddwyd oddeutu 2,000 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982.

AU22015