Prifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobrau’r Gynau Gwyrdd 2015

09 Gorffennaf 2015

Mae Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth yn dathlu wedi iddynt gael eu cynnwys ar restr fer ar gyfer Gwobrau’r Gynau Gwyrdd 2015.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rownd derfynol y category Bwyd a Diod y Gwobrau sy’n cydnabod llwyddiant prosiectau cynaliadwyedd mewn sefydliadau addysg uwch ar draws y Deyrnas Gyfunol. 

Maent yn annog prifysgolion i fabwysiadu polisïau cynaliadwy er mwyn gwella effeithlonrwydd defnydd ynni a lleihau gwastraff, a darparu llwyfan i rannu’r syniadau a mentrau yma ar draws y sector addysg uwch a thu hwnt.

Ers eu sefydlu yn 2004, Cymdeithas Amgylcheddol y Prifysgolion a’r Colegau sydd wedi bod yn cynnal y Gwobrau, a bellach maent yn cael eu hystyried gyda’r uchaf eu bri o ran cydnabyddiaeth o arferion cynaliadwy o fewn sector addysg uwch y DG.

Y prifysgolion eraill swydd wedi eu cynnwys ar restr fer y category Bwyd a Diod yw Lancaster, Brighton, Reading, the Arts London a Cymru Drindod Dewi Sant.

Mae ‘O’r Pridd i’r Plât’ yn gynllun gan Brifysgol Aberystwyth i wella cynaliadwyedd trwy ymgorffori amrediad o brosesau’r Brifysgol, o ymchwil cnydau i ddarparu o gynnyrch lleol.

Mae’r holl gig oen a chig eidion a weinir yn lleoliadau Gwasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth yn dod o ffermydd y Brifysgol, tra bod 90% o gynnyrch llaeth a 100% o’r tatws yn dod o Gymru.  Mae hyn yn cyfrannu tuag at leihau milltiroedd bwyd ac allyriadau carbon ac yn sicrhau cynnyrch o safon uchel.

Mae ymchwilwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn datblygu rhygwellt siwgr uchel sydd yn arwain at gynnydd mewn cynhyrchu llaeth a chig tra ar yr un pryd yn lleihau faint o fethan a gynhyrchir gan anifeiliaid fferm.

Dywedodd Beirniaid y Gwobrau:  “Mae’r amrediad o weithgareddau yn grêt, gan ddefnyddio academia a dulliau ymarferol o gyrchu a thyfu y gellir eu hailadrodd ar draws Cymru”.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-ganghellor Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Aberystwyth: “Trwy  “O'r Pridd i'r Plat” mae Prifysgol Aberystwyth yn gwneud cysylltiadau uniongyrchol rhwng ein gwaith ymchwil sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol a’n gwasanaethau bwyd a diod gwych i fyfyrwyr, staff a'r gymuned. Rydym yn ffodus bod gennym staff ymchwil a gwasanaethau proffesiynol sy’n ymroddedig i gefnogi rhagoriaeth mewn ffermio sy’n amgylcheddol gynaliadwy a lleihau milltiroedd bwyd, gan sicrhau bod myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â'r Brifysgol yn mwynhau bwyd o'r ansawdd uchaf.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn brifysgol Masnach Deg, a mae hefyd wedi sicrhau Gwobr Nod Arlwyo Efydd Bwyd am Fywyd i’w holl fwytai ar y campws, gwobr sy’n prysur ddod yn safon i’r diwydiant ar gyfer bwyd lleol, cynaliadwy a ffynonellau moesegol.

Cyhoeddir yr enillwyr yn Seremoni Wobrwyo’r Gynau Gwyrdd yn Brunel’s Old Station, Bryste ar 26 Tachwedd 2015.

AU22315