Cyflwyno Doethuriaeth er Anrhydedd i’r newyddiadurwr Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth

15 Gorffennaf 2015

Cyflwynwyd Doethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth i’r newyddiadurwr a’r llenor, Dylan Iorwerth yn ystod seremoni raddio’r Brifysgol heddiw, ddydd Mercher 15 Gorffennaf.

Mae Dylan Iorwerth yn newyddiadurwr ac yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio, ymunodd Dylan â’r Wrexham Leader a bu’n gweithio i Adran Newyddion BBC Radio Cymru cyn cael ei benodi’n ohebydd gwleidyddol BBC Cymru yn Llundain.

Roedd yn gyd sylfaenydd y papur Sul Cymraeg Sulyn, a’r cylchgrawn wythnosol Golwg.  Mae’n Brifardd sydd wedi ennill nifer o wobrau llenyddol yn yr Eisteddfod; y Goron yn 2000, y Fedal Ryddiaith yn 2005 a’r Gadair yn 2012.

Mae’n awdur ac yn gyflwynydd radio a theledu. Erbyn hyn, Dylan yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf sy’n cyhoeddi Golwg a’r gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360.

Cyflwynwyd Dylan Iorwerth gan Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg.

Cyflwyniad Doethuriaeth er anrhydedd i Dylan Iorwerth

“Dirprwy Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o'r mwyaf yw cyflwyno Dylan Iorwerth yn Ddoethur er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Dylan Iorwerth for an Honorary Doctorate at Aberystwyth University.

Mae’n deg dweud bod gan Brifysgol Aberystwyth le arbennig yng nghalon Dylan Iorwerth, nid yn unig am ei fod yn un o raddedigion Hanes a Saesneg y Brifysgol, ond pan oedd yn lletya yn y neuadd arbennig honno, Neuadd Panycelyn, fe ddaeth i adnabod ei wraig, Elaine. Mae Dylan yn wyneb cyfarwydd ac yn llais cyfarwydd hefyd: mae’n newyddiadurwr wrth ei alwedigaeth, ond mae e hefyd yn adnabyddus fel bardd a llenor, ac fel darlledwr rheolaidd ar y teledu a'r tonfeydd radio. Ymhlith ei gyhoeddiadau ar y Gymru gyfoes mae Gohebydd Tramor (1993), A Week in Europe (1996), Nabod y Teip (2007), Llyfr Mawr Wcw a'i Ffrindiau (2007) Y Gohebydd yng Ngheredigion yn y Flwyddyn Fawr (2007) ac, yn fwyaf diweddar, Golwg ar Gymru (2013). Mae ei gyflawniadau yn adlewyrchu dealltwriaeth ddofn ac ymrwymiad cadarn i'w gymuned – boed yn sir Gaernarfon neu yng Ngheredigion – a hynny'n unol â golwg eangfrydig ar y byd. Wrth gwrs, dyma uchelgais Prifysgol Aberystwyth ar gyfer bob un o'i graddedigion, oherwydd mae lleoliad y dref ar arfordir hardd Ceredigion yn golygu bod gan fyfyrwyr y Brifysgol hon, nid yn unig ymdeimlad cymunedol cryf, ond awydd hefyd i edrych allan ac i ddal sylw ar y gorwel eang hwnnw sy'n ymestyn o'u blaenau. Ar ôl graddio, fe ymunodd Dylan â'r Wrexham Leader. Gweithiodd i Adran Newyddion BBC Radio Cymru cyn cael ei benodi yn ohebydd seneddol BBC Cymru yn Llundain.

Mae'r ddeinameg rhwng y lleol a'r bydeang yn allweddol i'w weledigaeth broffesiynol felly: arloesodd wrth gyd-sefydlu’r papur Dydd Sul Cymraeg ei iaith, Sulyn, ynghyd â'r cylchgrawn wythnosol Golwg a lansiwyd yn 1988. Ac yntau'n Olygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf, mae Dylan wedi sicrhau bod Golwg yn gystadleuol ac yn berthnasol, ac yn gyhoeddiad ac iddo hygrededd: mae'r we fydeang a'r cyfryngau cymdeithasol yn herio'r diwydiant cyhoeddi yn barhaus ac ymateb Dylan i'r her honno fu datblygu'r gwasanaeth newyddion a diwylliannol ar-lein, Golwg360. Dyna chi Dylan Iorwerth y newyddiadurwr. 

It is fair to say that Aberystwyth University has a special place in Dylan Iorwerth’s heart. Not only is he an alumnus of Aberystwyth University, graduating in History and English, but like so many of you, he met his future wife here too. A journalist by profession, he is also an accomplished writer in other modes, both poetry and fiction, and is a regular broadcaster on radio and television. In his achievements he encapsulates an understanding of, and commitment to his community, complimented by a thoroughly global outlook. Of course, this is one of Aberystwyth University's ambitions for all its graduates, because the town's beautiful coastal location means that Aberystwyth students not only have a keen sense of place but are also always looking outwards, always focussed on that broad horizon. After graduating Dylan joined the Wrexham Leader and worked for BBC Radio Cymru’s News Department before being appointed BBC Cymru’s parliamentary correspondent in London.

Regional and global dynamics are key to Dylan's professional vision: he was co-founder of the Welsh-language Sunday paper Sulyn, and of the weekly magazine Golwg that was launched in 1988. As Directing Editor of Golwg Cyf, Dylan has ensured that Golwg remains competitive, relevant and credible: the worldwide web and social media have posed huge challenges to the publishing industry and Dylan's response has been to develop Golwg360, an incredibly successful online news service and wide-ranging cultural magazine. Dylan has won literary awards at the National Eisteddfod for his other writing; notably the Crown in 2000, the Prose Medal in 2005 and the Chair in 2012. The Department of Welsh is particularly pleased that Dylan Iorwerth, one of Wales's foremost journalists, is being honoured today because he is an excellent ambassador for the discipline – for creative writing and Welsh in a professional context – and is also one of our staunchest supporters. Many of our students have boosted their employability potential thanks to work placements with Dylan at Golwg; we have a student working in partnership with Golwg towards a KESS PhD on the digital economy; and most recently Dylan took part in a successful conference organised by our Professional Welsh students that highlighted the range of careers available to graduates in our discipline.

O droi at Dylan Iorwerth y llenor, rhaid nodi ei fod wedi ennill bob un o brif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol, sef y Goron yn 2000, y Fedal Ryddiaith yn 2005 a'r Gadair yn 2012. Mae Adran y Gymraeg yn arbennig o falch o gael ei anrhydeddu heddiw: mae'n hysbyseb wych ar gyfer y ddisgyblaeth – sef ysgrifennu creadigol a Chymraeg mewn cyd-destun proffesiynol – ac mae ef hefyd ymhlith ein cefnogwyr mwyaf selog. Diolch i leoliadau gwaith gyda Dylan yn swyddfeydd Golwg fe gafodd nifer o'n myfyrwyr gyfle i hybu eu proffil cyflogadwyedd; mae gennym fyfyriwr sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda Golwg ar ddoethuriaeth KESS ar yr economi ddigidol; ac yn fwyaf diweddar, fe gyfrannodd Dylan at gynhadledd lwyddiannus iawn a drefnwyd gan ein myfyrywr Cymraeg Proffesiynol er mwyn tynnu sylw at yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Cymraeg a Chymraeg Proffesiynol. Mae Dylan Iorwerth yn gymwynaswr i'n Hadran ni, a hefyd nid gormodiaith yw dweud ei fod, ym mhob agwedd ar ei yrfa hyd yn hyn, yn gymwynaswr goleuedig i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.”

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.

AU19715