Urddo'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth yn Gymrawd

Yr Arglwydd Bourne a'r Dirprwy Ganghellor Gwerfyl Pierce Jones

Yr Arglwydd Bourne a'r Dirprwy Ganghellor Gwerfyl Pierce Jones

15 Gorffennaf 2015

Urddwyd yr Aglwydd Bourne o Aberystwyth yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r Arglwydd Bourne (LLB a LLM) yn Arglwydd Preswyl (Gweision EM) (Chwip) ac yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth. 

Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2015, cafodd ei benodi yn Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru.

Mae’r Arglwydd Bourne yn cynnal cysylltiad sylweddol gyda’r Brifysgol. Mae’n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymru Prifysgol Aberystwyth ac yn Llywydd Anrhydeddus Conservative Future Aberystwyth.

Cyflwynwyd yr Arglwydd Bourne yn Gymrawd ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf gan Dr Anwen Elias, Uwch-ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Gymharol.

Cyflwyniad yr Arglwydd Nicholas Bourne yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno'r Arglwydd Nicholas Bourne yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Lord Nicholas Bourne as a Fellow of Aberystwyth University.

Nicholas Bourne was born in Aberystwyth, and graduated with a law degree from this University.

After some time as an academic, Nick entered the world of politics in the 1980s as a member of the Conservative Party. As the Conservatives' Chief Spokesman in Wales during the 1990s, he played a prominent role in debating proposals for Welsh devolution. After a referendum in 1997 voted to create a new National Assembly for Wales, he sat on the advisory group which set up the working arrangements of this new body.

He was elected to the National Assembly for Wales in May 1999 representing Mid and West Wales, and within a few months became the leader of the Welsh Conservatives, a post he held until 2011. In this role, he contributed to policy-making through his work on various Assembly Committees. But just as significant, if not more so, was his role in adapting the Welsh Conservative party to the new realities and opportunities of politics in post-devolution Wales. Nick oversaw substantial organisational and policy changes that, since 1999, have revived the electoral fortunes of the Welsh Conservatives. Having undertaken research on party politics in Wales myself, I can say with confidence that the fact that the party now constitutes the second political force in Wales is, in large part, down to Nick's skilful leadership over more than a decade at the helm.

Nick's impact on Welsh politics and society doesn't end there. Between 2011 and 2014, he was a member of the influential Commission on Devolution in Wales, which made recommendations on the fiscal accountability and powers of the Welsh Assembly.

And, in September 2013, he was appointed to the House of Lords, as Lord Bourne of Aberystwyth. He was made a whip in that chamber in August 2014, and after the 2015 General Election he was appointed Parliamentary Under Secretary of State for the Department of Energy and Climate Change, and the Wales Office.

Throughout this time, Nick has maintained strong links with the University: He is a member of the Advisory Board of Aberystwyth's Centre for Welsh Legal Affairs, Honorary President of the Aberystwyth branch of Conservative Future, and he has contributed to post-graduate teaching in the Department of International Politics.

Mae'n fraint i fi yn bersonnol, ac i'r Brifysgol, i gael cyfle i gyd-nabod a dathlu cyfraniad aruthrol a pharhaol Nick i wleidyddiaeth a chymdeithas Cymru.

It is a great honour for me personally, and for the University, to be able to recognise and celebrate Nick's substantial and on-going contribution to Welsh politics and society.

Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno'r Arglwydd Nicholas Bourne i chi yn Gymrawd. 

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Lord Nicholas Bourne to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.

AU19715