Cyflwyno Jeremy Bowen yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Dr Tim Brain, Trysorydd y Brifysgol yn croesawu Jeremy Bowen yn Gymrawd

Dr Tim Brain, Trysorydd y Brifysgol yn croesawu Jeremy Bowen yn Gymrawd

15 Gorffennaf 2015

Cyflwynwyd y newyddiadurwr arobryn, Jeremy Bowen, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth, flwyddyn wedi ei urddo in absentia.

Methodd Jeremy Bowen fynychu’r seremoni llynedd gan ei fod yn gohebu o’r gwrthdaro yn Gaza.

Yn frodor o Gaerdydd, astudiodd Jeremy Bowen yn UCL a Phrifysgol John Hopkins cyn cychwyn ar ei yrfa gyda’r BBC ym 1984.

Yn ei rôl fel gohebydd rhyfel, mae bywyd Jeremy Bowen wedi bod mewn perygl llawer tro.  Tra yn Kosovo yn 1999 cafodd ei fygio gan ladron â drylliau a fei’i saethwyd yn ei ben yn ystod protestiadau’r Aifft yn 2013.

Ers 2005, mae Jeremy Bowen wedi bod yn Olygydd Dwyrain Canol y BBC ac mae’n un o’r ychydig rai sydd wedi gohebu o ryfel cartref Syria.

Cyflwynwyd Jeremy Bowen yn Gymrawd ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf gan Dr Madeline Carr, Uwch ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

 

Cyflwyniad Jeremy Bowen yn Gymrawd

Trysorydd, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Jeremy Bowen yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Treasurer, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Jeremy Bowen as a Fellow of Aberystwyth University.

Many of you will be familiar with Jeremy’s work. Born in Cardiff, he joined the BBC 30 years ago and has been a war correspondent for much of his career including during the Boznia-Herzogovina and Kosovo conflicts. He was the BBC's Middle East correspondent based in Jerusalem between 1995 and 2000, and has been its Middle East Editor since 2005. He has borne witness on our behalf, to some extraordinary events in global politics. In the course of his work, he has received some of the most prestigious awards in journalism including:

•        Sony Gold award for News Story of the Year for his coverage of the arrest of Saddam Hussein

•        A team BAFTA for coverage of the Kosovo conflict

•        International Emmy for his lead on BBC News', coverage of the 2006 Lebanon War

The work of people like Jeremy is obviously important to the health of our society. Having access to information about global affairs is essential to shaping our view of the world and to considering how best to respond to crises. But his work is particularly important for people like me who work in International Politics and often rely on foreign correspondents to provide us with an overview and immediate news of a region or issue that we study.

We’re currently facing a generational challenge to work out a new model for the delivery of news. The old model of advertising based newspapers has not translated successfully to online platforms and we’ve seen massive budget cuts to the news industry across the board. While it’s tempting to see this as an opportunity for the democratization of news and a new ‘bottom-up’ model generated by bloggers and interested citizens, a more likely future is one based on trusted individuals like Jeremy Bowen who have years – or decades, of experience reporting on a particular region or issue.

Almost 100 years ago, the Department I work in (International Politics) was founded by Lord David Davies as a response to the horrors of the first WW.  His specific intent was to establish an intellectual project that would work towards eliminating or minimizing the practice of war. I think he would have been very proud and pleased today to see Jeremy Bowen – the recipient three years ago of the Peace Through Media Award, being recognised as an honorary fellow.

Jeremy was to have received his fellowship at graduation last year but could not because once again, he had flown at a moment’s notice to a conflict zone. He spends much of his time in extremely dangerous places, at considerable personal risk – because he believes in what he does. And that commitment is something to aspire to for all of us.

You have all had the incredible privilege of a world-class education. As you move onto the next chapter in your academic or working lives, I’d encourage you to consider Jeremy’s example and think deeply about how best to use your education to contribute to a better world. If you can put yourselves in a position to do what inspires you, to do something that you believe really matters, then you will not only be best placed to make the kind of difference that David Davies was hoping for and that Jeremy Bowen has worked towards for three decades, you will be an inspiration to those around you.

Trysorydd, mae’n bleser gen i gyflwyno Jeremy Bowen i chi yn Gymrawd. 

Treasurer, it is my absolute pleasure to present Jeremy Bowen to you as a Fellow of Aberystwyth University.

 

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

 

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.