Cydnabod gwasanaethau cwsmer rhagorol

Llyfrgell Hugh Owen

Llyfrgell Hugh Owen

21 Gorffennaf 2015

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn Safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmer (CSE), yn dilyn asesiad ffurfiol ym mis Ebrill 2015.

Mae’r safon hwn oddi wrth y llywodraeth yn asesu sefydliadau ar sail darpariaeth, prydlondeb, gwybodaeth, proffesiynoldeb ac agwedd staff, a chaiff ei ystyried fel arwydd o ansawdd uchel a rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmer.

Daeth yr arolygwr  i’r casgliad bod gan GG ymrwymiad cryf ymysg yr arweiniaeth  tuag at wasanaeth cwsmer rhagorol ac adlewyrchir hyn yn y cyfraddau uchel o foddhad ymysg defnyddwyr y gwasanaethau.

Disgrifiwyd y cydweithredu rhwng GG ac adrannau eraill y Brifysgol fel rhagorol gan yr arolygwr, ac fel esiampl cyfeiriodd at y ddarpariaeth o gyfleusterau e-ddysgu yn hwyluso mynediad i lenyddiaeth ar gyfer cyrsiau.

Roedd adborth wrth fyfyrwyr yn gadarnhaol, gyda defnyddwyr yn canmol parodrwydd y staff i fod o gymorth:  “Maent yn barod i roi cyngor ac i ddangos tro ar ôl tro, nes eich bod yn teimlo’n gyffyrddus.”

Yn ogystal, mae GG yn ymdrechu’n barhaus i wella eu gwasanaethau hyd yn oed ymhellach mewn ymateb i adborth wrth gwsmeriaid ac ymgynghoriaeth rheolaidd gyda defnyddwyr trwy grwpiau ffocws a chyfryngau cymdeithasol.

Daeth yr asesiad i’r canlyniad bod staff GG yn teimlo wedi eu gwerthfawrogi yn eu swyddi gan eu cydweithwyr a rheolwyr yn ogystal â chwsmeriaid.

Cefnogir y canlyniadau cadarnhaol gan arolwg ar-lein blynyddol GG sydd hefyd yn dangos cynnydd mewn boddhad defnyddwyr ers y llynedd.

Dywedodd Nia Ellis, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn GG:  “Efallai mai'r cynnydd mwyaf ydy ein bod wedi datblygu ein hadnabyddiaeth o'n cwsmeriaid sy'n golygu ein bod yn medru datblygu gwasanaethau ac adnoddau sy'n fwy addas ar eu cyfer e.e. oriau agor hirach, parthau astudio mwy addas a benthyciadau rhyng-safle.”

Disgrifiodd Elizabeth Kensler, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid,  yr achrediad fel “testament i ymroddiad a chymwynasgarwch holl staff GG.”

AU20615