Gwobr ymchwil i Ganolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd

Yr Athro David Kay yn derbyn y wobr’

Yr Athro David Kay yn derbyn y wobr’

28 Gorffennaf 2015

Enillodd Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd (CREH) ym wobr Offer Meddalwedd yn ystod Gwobrau 'Effaith' Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2015, a gynhaliwyd gan Fforwm Diwydiant Dŵr y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r Fforwm Diwydiant Dŵr yn gynghrair o gwmnïau dŵr, ymgynghoriaethau cysylltiedig, asiantaethau ymchwil o'r llywodraeth a rheoleiddwyr perthnasol.

Cyflwynwyd y wobr i’r tîm CREH yn ystod seremoni wobrwyo ar ddydd Mawrth 30 Mehefin yn y Crystal, Royal Victoria Dock, Llundain.

Derbyniodd CREH y wobr am eu gwaith ar safonau microbaidd ar gyfer dyfroedd hamdden. 

Roedd hyn yn cynnwys modelu i ddatblygu safonau ansawdd dŵr microbaidd a dosraniad ffynhonnell microbaidd, a modelu amser real o grynodiadau bacteriol er mwyn cydymffurfio gyda’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi.

Mae’r gwobrau yn fenter newydd i’r diwydiant dŵr yn y DG ac mae’r panel yn cynnwys gwyddonwyr profiadol o’r diwydiant dŵr.

Dywedodd yr Athro David Kay, Pennaeth CREH ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r holl dîm wedi gwneud gwaith gwych ac rydym wrth ein bodd gyda’r wobr hon, yn enwedig o ystyried ei fod yn ddyfarniad gan reolwyr ac ymarferwyr gwyddoniaeth dŵr gorau’r DG, ac sydd wedi derbyn cyngor gan dri Athro blaenllaw ym maes dŵr a pheirianneg.”

Dywedodd Gary Reed, Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth a Rheolwr FfRhY y Brifysgol: “Rydw i wrth fy modd bod yr Athro Kay a’i dîm wedi derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol am eu hymchwil o safon fyd-eang a’r effaith cysylltiedig.  Rydw i’n arbennig o falch o gyfraniad fy nhîm FfRhY, Hannah Payne a Christine Szinner, tuag at ddrafftio’r astudiaeth achos effaith hyn”.

Mae mwy o wybodaeth am CREH ar gael yma.

AU22315