Dydd Mercher ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod

05 Awst 2015

Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol 2015 – Dydd Mercher 5ed Awst

Heddiw caiff ymwelwyr â stondin Prifysgol Aberystwyth eu harwain ar daith wyddonol i’r gorffennol a bydd cyfle i gyn-fyfyrwyr ymgasglu mewn aduniad.

11.00yb
Mynd yn ôl i Ddyfodol y Fictoriaid
Dewch yn llu i stondin Prifysgol Aberystwyth am 11.00yb, lle bydd yr Athro ecsentrig Marmaduke Salt yn ein tywys yn nôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i brofi rhyfeddodau gwyddonol oes Fictoria.

Bydd yr Athro yn trafod ac yn arddangos rhai o'r ffyrdd roedd y Fictoriaid yn defnyddio gwyddoniaeth i ddychmygu'r dyfodol. Debyg i beth oedd y Fictoriaid yn meddwl byddai'r byd yn edrych yn 2015? Fe fydd yna gyfle i weld (a theimlo!) arbrofion trydanol o oes Fictoria ac i drafod beth fedrwn ni ddysgu am ein dyfodol ni wrth edrych ar ddyfodol y Fictoriaid.

2.00 tan 4.00yp
Aduniad Mawreddog Prifysgol Aberystwyth
Rhwng 2.00 a 4.00yp, estynnwn groeso cynnes i holl gyn-fyfyrwyr y Brifysgol i ymgasglu yn stondin y Brifysgol mewn aduniad.  Dewch i gwrdd â hen ffrindiau, hel atgofion a dysgu am y datblygiadau cyffrous diweddaraf yn y Brifysgol.

Am raglen lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau 2015 cliciwch yma.

AU21815