Dydd Iau ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod

06 Awst 2015

Heddiw ar stondin Prifysgol Aberystwyth cynhelir ‘Talwrn y Trosiadau’, trafodaeth ar bolisi a chynllunio iaith, a chyfle i glywed Dr Lucy Taylor yn trafod eu gwaith ymchwil ar y Cymry a’r brodorion ym Mhatagonia.

11.00yb
Talwrn y Trosiadau
Digwyddiad agoriadol stondin y Brifysgol ar ddydd Iau fydd ‘Talwrn y Trosiadau’ am 11.00yb.  Bydd panel o areithwyr o’r Brifysgol yn trafod y cyfieithiadau gorau rhwng y Gymraeg ac ieithoedd eraill.  Dewch i wylio a phenderfynu pwy sy’n haeddu teitl “Ceiliog y Cyfieithiadau”.

1.00yp
Polisi a Chynllunio Iaith: y cynlluniau ymchwil a dysgu diweddaraf yn Aberystwyth
Am 1.00yp bydd staff o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnal trafodaeth ar bolisi a chynllunio iaith ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae hon yn argoeli i fod yn drafodaeth ddiddorol a pherthnasol ar statws a dyfodol yr iaith Gymraeg.

Yn ystod y cyfarfod bydd cyfle i glywed cyflwyniadau byr ynglŷn â rhai o’r prosiectau ymchwil cyffrous sydd ar y gweill gan staff yr Adran ym maes polisi a chynllunio iaith, yn cynnwys:

  • Dr Catrin Edwards yn trafod dulliau o integreiddio mewnfudwyr i gymunedau iaith leiafrifol.
  • Dr Andrew Davies sydd yn astudio agweddau myfyrwyr tuag astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y cyfnod ôl-statudol.
  • Ymchwil gan Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles sy’n cloriannu strategaethau adfer iaith mewn cyfnod o newid cymdeithasol dwys.

Yn ogystal, bydd cyfle i glywed am gyrsiau datblygu proffesiynol arloesol Prifysgol Aberystwyth ym maes polisi a chynllunio iaith, sydd i’w cynnig am y tro cyntaf yn Hydref 2015.

2.30yp
Y Cyfarfyddiad ym Mhatagonia: Cymry a’r Brodorion, 1865-1885
Am 2.30yp bydd cyfle i glywed Dr Lucy Taylor o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod ei gwaith ymchwil ar y berthynas rhwng y Cymry a’r brodorion ym Mhatagonia.

Mae ymchwil Dr Taylor wedi trawsnewid dealltwriaeth o effaith ymfudiad y Cymry ar y bobl frodorol, gan ei ystyried yng nghyd-destun ehangu trefedigaethol Llywodraeth yr Ariannin.

“Yr hyn a geir yw darlun cymhleth o bobl fregus, o ddibyniaeth, masnach, parch a chyfeillgarwch”, meddai Dr Taylor, “ond wedi eu gosod o fewn ideolegau dominyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg; imperialaeth a rhagoriaeth hiliol. Yn hynny o beth, tra bod y Cymry yn ddarostyngedig i imperialaeth yn ôl adref yng Nghymru lle’r oedd yr iaith a’r diwylliant yn cael eu dilorni, roeddent yn asiantiaid dros wladychu yn yr Ariannin.”

Am raglen lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau 2015 cliciwch yma.

AU21815