Gwobr gyntaf Gwerddon i fyfyrwraig o Aberystwyth

Dr Nia Blackwell

Dr Nia Blackwell

05 Awst 2015

Y gwyddonydd Dr Nia Blackwell, o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yw enillydd cyntaf gwobr newydd e-gyfnodolyn ysgolheigaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwerddon.

Mae Dr Nia Blackwell a’i chydawduron yn derbyn y wobr am yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod 2014.

Mae’r erthygl, Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd dŵr ac opsiynau i’w leihau,wedi’i seilio ar ymchwil doethurol Dr Nia Blackwell.

Ysgrifennodd Nia yr erthygl gyda chefnogaeth Dr Bill Perkins a Dr Arwyn Edwards, sef cyfarwyddwyr ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyflwynir y wobr gan Fwrdd Golygyddol Gwerddon gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Y beirniaid oedd Dr Anwen Jones a Dr Hywel Meilyr Griffiths, sef golygydd ac is-olygydd Gwerddon. Roedd y ddau’n gytûn mai erthygl Dr Nia Blackwell oedd yn mynd â hi.

“Roeddem yn teimlo bod erthygl Nia a’i chyd-awduron yn gytbwys a darllenadwy, ond hefyd yn gadarn ei hysgolheictod, yn apelio at gynulleidfa eang ac o werth ymarferol,” meddai Dr Griffiths.

Meddai Nia Blackwell: “Rwy’n ddiolchgar i Gwerddon am ddewis fy erthygl ac mae’n fraint cael derbyn y wobr eleni. Hoffwn ddiolch hefyd i’r arfarnwyr a golygyddion Gwerddon am eu cyfraniad gwerthfawr ac am eu hadborth adeiladol sydd wedi cryfhau a chyfoethogi’r gwaith. Rwy’n meddwl bod y gystadleuaeth i’w chroesawu ac yn gobeithio y bydd hi’n ysgogi mwy o academyddion i ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae enillydd y wobr yn derbyn tlws ynghyd â £100 yn rhoddedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn falch o gefnogi Gwerddon ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg. Rwy’n falch hefyd o weld gwyddonydd ifanc yn ennill y wobr gyntaf.”

Fe wnaeth Nia Blackwell gwblhau doethuriaeth mewn biogeocemeg yn adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn 2014. Roedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddyfroedd a effeithiwyd o ganlyniad i brosesau cloddio am lo. Mae hi bellach yn gweithio fel cemegydd i gwmni yng ngogledd Cymru, lle mae’n gyfrifol am redeg y labordy cemeg ddadansoddol.

Bydd Nia Blackwell yn derbyn y wobr mewn digwyddiad ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 4 o’r gloch brynhawn Mercher 5 Awst.

Gellir darllen yr erthygl fuddugol yma.

Gwerddon
Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cyhoeddi ymchwil ysgolheigaidd gwreiddiol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion. Sefydlwyd Gwerddon yn 2007. Dr Anwen Jones, Prifysgol Aberystwyth, yw’r golygydd presennol a’r Athro Eleri Pryse, Prifysgol Aberystwyth, yw Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol. Cyllidir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw academi ysgolheigaidd genedlaethol gyntaf Cymru. Fe’i sefydlwyd a’i lansiwyd ym mis Mai 2010. Bellach mae iddi dros dri chant a hanner o Gymrodyr, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd perthnasol. Ethos arweiniol y Gymdeithas yw Dathlu Ysgolheictod a Gwasanaethu’r Genedl: yn ogystal â dathlu, cydnabod, diogelu ac annog rhagoriaeth ym mhob un o’r disgyblaethau ysgolheigaidd, ei diben hefyd yw harneisio a sianelu talent y genedl, fel y’i hymgorfforir yn ei Chymrodyr, er budd, yn bennaf, Cymru a’i phobl.

AU26015