Astudiaeth i fanteision ymarfer corff i ddioddefwyr Parkinson’s

Aelodau o’r dosbarth ymarfer dwysedd uchel gyda Rhian George, myfyrwraig yn IBERS.

Aelodau o’r dosbarth ymarfer dwysedd uchel gyda Rhian George, myfyrwraig yn IBERS.

10 Awst 2015

Mae  gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal dosbarth ymarfer corff dwysedd uchel i bobl sy'n byw gyda chlefyd Parkinson’s, er mwyn asesu manteision rhaglen o'r fath ar gyfer y rhai sy'n byw gyda'r cyflwr.

Mae'r cwrs peilot 12 wythnos wedi cael ei ariannu gan gangen Parkinson’s UK Aberystwyth ac fe'i cefnogir gan Parkinson’s UK Cymru.

Bu David Langford, ymarferydd ymarfer corff gyda’r Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydeinig yn cynnal dwy sesiwn 90-munud yr wythnos dros 3 mis. Roedd y cwrs yn cynnwys elfennau ffitrwydd dwysedd uchel a hyfforddiant cryfder, cydbwysedd, symudedd y cymalau, ystwythder a phatrymau penodol ar gyfer cydsymud a cherdded.

Bu Hefin Jones, Cadeirydd cangen Aberystwyth Parkinson’s UK a Suzanne Marchment, Rheolwr Datblygu Ardal dros Parkinson’s UK Cymru, yn ymweld â’r grŵp wrth iddynt gyrraedd at ddiwedd eu cwrs 12 wythnos.

Dywedodd Hefin Jones: “Fel grŵp lleol rydym yn falch iawn i ariannu'r cwrs cyntaf o'i fath yng Ngheredigion. Mae ein haelodau yn adrodd yn ôl yn ffafriol iawn ac yn cael budd mawr o’r sesiynau ymarfer.”

Dywedodd Dr Joanne Wallace, Uwch Ddarlithydd mewn Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer Corff yn IBERS: “Cynlluniwyd y rhaglen heriol hon gan gymryd i ystyriaeth ofynion a chyfyngiadau'r rhai sydd â chlefyd Parkinson’s. Bydd canlyniadau ein gwaith monitro dros y 12 wythnos ddiwethaf yn dangos pa mor effeithiol y gall y math hwn o ymarfer corff fod o ran gwella cydbwysedd, symudedd ac ansawdd bywyd, a chyfyngu cynnydd y cyflwr. Bydd y wybodaeth sydd gennym yn awr hefyd yn ein cynorthwyo i chwilio am fwy o gyllid ar gyfer mwy o gyrsiau ymchwil ar draws Cymru.”

Un o gyfranogwyr y cwrs yw Zena Evans a ddywedodd: “Rwyf wedi bod yn ffit iawn erioed ac wedi cael diagnosis y cyflwr beth amser yn ôl, yr wyf yn dal i ymarfer yn rheolaidd. Mae'r cwrs hwn wedi bod o fudd i mi wrth weithio gydag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Byddwn yn awyddus i chwarae rhan mewn rhedeg y dosbarth os oes mwy yn cael eu cynllunio yn y dyfodol.”

Dywedodd Gwyn Davies: "Rwyf wedi mwynhau'r 12 wythnos diwethaf yn fawr ac wedi sylwi gwelliant sylweddol yn y ffordd rwy’n symud o ganlyniad.”

Dywedodd Pam Williams: “Rwy'n gwneud ymarfer corff yn rheolaidd ond mae sefyllfa iechyd fy ngŵr wedi effeithio ar hynny yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod y cwrs, rwyf wedi gweld gwelliant cyffredinol yn fy ffitrwydd a symudedd ac yr ydym yn chwerthin gyda'n gilydd, yn mwynhau gyda'n gilydd ac yn cefnogi’n gilydd.”

Dywedodd Barbara Locke, Cyfarwyddwr Parkinson’s UK Cymru: “Rwy'n falch iawn bod haelioni Cangen Aberystwyth Parkinson’s UK wedi gwneud y rhaglen unigryw hon ar gael i bobl sydd â Parkinson’s. Mae'r manteision i gyfranogwyr yn glir o’u sylwadau ar y profiad, ac mae’r gwaith gydag IBERS o bwys gwirionedd i’n cenhadaeth i gynorthwyo pobl sydd â Parkinson’s i gymryd rheolaeth o'u cyflwr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Dr Wallace a'i thîm i hyrwyddo ac ymestyn y prosiect ymchwil hwn sy'n torri tir newydd.”

Meddai Rhian George myfyrwraig trydedd flwyddyn ar brofiad gwaith: “Mae'r rhaglen yn rhywbeth o ddiddordeb mawr i mi, a thrwy arsylwi a chynnig help llaw bob wythnos rwyf wedi ennill profiad gwaith gwerthfawr yn ogystal â gwella sgiliau allweddol.”

IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o lefel genynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Parkinson’s UK
Parkinson’s UK yw prif elusen y DG i gefnogi'r rhai sydd â'r cyflwr. Ei chenhadaeth yw dod o hyd i iachâd a gwella bywyd i bawb yr effeithir arnynt gan Parkinson’s trwy ymchwil flaengar, gwybodaeth, cefnogaeth ac ymgyrchu. I gael cyngor, gwybodaeth a chymorth, ewch i www.parkinsons.org.uk neu ffoniwch ein llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar 0808 800 0303.

AU26315