Arbenigwr geo-archeoleg Aberystwyth ar Science Cafe

Yr Athro John Grattan

Yr Athro John Grattan

11 Awst 2015

Bydd John Grattan, Athro Geo-archaeoleg a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn ymddangos ar rifyn yr wythnos hon o'r rhaglen Science Café  ar BBC Radio Wales fydd yn cael ei ddarlledu ar dydd Mawrth 11 Awst am 6.30yp. Gallwch wrando yma.

Bydd yr Athro Grattan yn ymuno â’r cyflwynydd Adam Walton wrth iddynt grwydro mynyddoedd y Cambria ger Cwmystwyth i chwilio am waith mwyn copr o'r oes efydd.

Un o brif ddiddordebau’r Athro Grattan yw ymddangosiad diwydiant yn y byd hynafol. Astudiodd safleoedd ffatri copr yn yr anialwch o dde Jordan gan archwilio'r ffordd mae technolegau, deunyddiau ac arbenigedd yn lledaenu’n raddol oddi yno i safleoedd fel y gwaith mwyn copr yng Nghanolbarth Cymru.

Byddant hefyd yn trafod y syniad o'r 'ffatri' yn rhagddyddio'r chwyldro diwydiannol o filoedd lawer o flynyddoedd ac effeithiau amgylcheddol y ffatrïoedd cynnar hyn, gan adael gwaddol o lygredd sy'n amlwg hyd yn oed heddiw.

Bydd yr Athro Grattan hefyd yn trafod ei ddiddordeb ymchwil pwysig arall sef effeithiau atmosfferig ac effeithiau iechyd sy'n deullio o echdoriadau folcanig. Bu'n astudio ffrwydrad Laki Tyllau yng Ngwlad yr Iâ yn 1783 a oedd yn ôl pob tebyg y digwyddiad llygredd unigol mwyaf yn hanes dyn. Cynhyrchodd y llosgfynydd niwl sylffyraidd a laddodd chwarter poblogaeth ddynol Gwlad yr Iâ a thri chwarter ei da byw. Amcangyfrifir bod mwy na 20,000 o bobl wedi marw yn Lloegr yn unig o ganlyniad uniongyrchol i'r ffrwydrad.

Gallwch wrando eto ar yriplayer.