Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

25 Awst 2015

Gyda thristwch mawr yr adroddwn am farwolaeth Yr Athro David Andrew Trotter, a fu farw ddydd Llun 24 Awst yn 58 oed.

Yr Athro Trotter oedd pennaeth yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd.

Graddiodd yr Athro Trotter fel Doethur mewn Athroniaeth o Goleg y Frenhines Rhydychen, ac roedd yn un o brif arbenigwyr y wlad ar Eingl-Normaneg. Ar ôl gweithio fel Cymrawd Iau Laming yng Ngholeg y Frenhines Rhydychen, symudodd i Brifysgol Caerwysg yn 1985 lle bu'n dysgu ieithyddiaeth Ffrangeg modern tra’n gyfrifol am holl waith canoloesol yn yr Adran Ieithoedd Modern ar yr un pryd.

Cafodd ei benodi i Gadair y Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddechrau ym mis Hydref 1993 gan ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol Pennaeth Adran ar yr un pryd. Cyflawnodd rôl Deon Cyfadran y Celfyddydau rhwng 1996 a 2000 a pharhaodd fel Pennaeth Adran yn ystod ei holl gyfnod yn Aberystwyth.

Roedd ymchwil yr Athro Trotter yn rhychwantu ieithyddiaeth Ffrangeg hanesyddol, Ffrangeg y canoloesoedd, tafodieitheg ganoloesol, ac yn arbennig Ffrangeg y dwyrain. Ef hefyd oedd yn arwain y Geiriadur Eingl-Normaneg a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Dyniaethau a’r Celfyddydau (AHRC) ac sydd wedi'i leoli yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Roedd yn Llywydd y Société de Linguistique Romane (2013-16), yn gyfrannwr (ar Ocsitaneg) i'r Romanische Bibliographie (De Gruyter), yn aelod o Goleg Adolygu gan Gydweithiwyr yr AHRC ac yn Adolygydd Strategol ar gyfer y AHRC.

Yn ogystal, roedd yn un o olygyddion y Cyfnodolyn Astudiaethau Iaith Ffrangeg (CUP), a gwasanaethodd ar fyrddau ymgynghorol Romance Studies, Zeitschrift für romanische Philologie, Revue de Linguistique romane, Quaderni di Filologia Romanza, Revue Internationale de Linguistique Française, a chyfres Romanische Texte des Mittelalters y Winter Verlag (Heidelberg).

Wrth dalu teyrnged i'r Athro Trotter, dywedodd yr Athro April McMahon: “Mae marwolaeth annhymig yr Athro David Trotter yn golled enfawr i ymchwil ac ysgolheictod. Roedd ganddo enw da rhagorol a haeddiannol fel hanesydd o’r Ffrangeg, ac roedd yn arbennig o adnabyddus am ei brosiect  Geiriadur Eingl-Normaneg, a enillodd gyllid a chydnabyddiaeth sylweddol.

“Fodd bynnag, mi fydd y rhai ohonom a fu’n gweithio gydag ef ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle'r oedd yn un o'n Penaethiaid Adran hiraf ei wasanaeth, yn gweld eisiau David y dyn hyd yn oed yn fwy na David yr ymchwilydd. Roedd ganddo ffordd hyfryd o siarad, a medrai fywiogi’r cyfarfod mwyaf di-liw mewn modd a fyddai ar adegau’n ddiddorol ac anrhagweladwy, ac roedd yn ddoeth, gonest a chefnogol bob amser.

“Rydym yn cydymdeimlo gyda'i deulu a’i gyfeillion agos; ond byddaf i a'i gydweithwyr a’i fyfyrwyr hefyd yn gweld ei eisiau’n aruthrol”.

Cynhelir angladd yr Athro Trotter am 11am ddydd Mawrth 1 Medi yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Ffordd y Drindod, Aberystwyth. Croeso i bawb.

AU28015