Prifysgol Haf Aberystwyth yn dathlu 15 mlynedd

Rhai o’r myfyrwyr llwyddiannus fu’n astudio ar gwrs Prifysgol Haf Aberystwyth eleni

Rhai o’r myfyrwyr llwyddiannus fu’n astudio ar gwrs Prifysgol Haf Aberystwyth eleni

26 Awst 2015

Mae’r bymthegfed Brifysgol Haf fynyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn haf hwylus a meddylgar o waith caled i staff a myfyrwyr.

Tra byddai’r mwyafrif o bobl ifainc yn dewis cymryd hoe o astudio dros yr haf, dewisodd 80 o fyfyrwyr fynychu chwe wythnos o ddarlithoedd, ymchwil a chyflwyniadau.

Clowyd Prifysgol Haf eleni gan seremoni raddio fawreddog, a gynhaliwyd ar y 21 o fis Awst, i ddathlu gwaith caled y myfyrwyr a ddaeth ynghyd o bob cwr o Gymru i astudio pynciau sydd o ddiddordeb iddynt a phrofi bywyd prifysgol.

Mae’r Brifysgol Haf yn rhaglen ehangu mynediad sydd wedi ei hanelu at rheini sydd yn arddangos ymrwymiad a chymhelliant i gwblhau’r cynllun.

Mae’r myfyrwyr yn byw neu’n mynychu ysgol neu goleg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, neu wedi bod mewn gofal, neu sydd y cyntaf o’r teulu neu ardal i fynychu prifysgol.  Mae gan rhai anawsterau dysgu neu wedi profi digwyddiad trawmatig sydd wedi effeithio ar eu haddysg.

Cafodd Jamie Dearden, 27, un o raddedigion eleni, chwe wythnos arbennig o brysur gan i’w bartner roi genedigaeth i’w mab, bum wythnos yn gynnar yn ystod y cynllun.

Dywedodd Jamie:  “Roedd pawb yn barod i helpu a dim ond un diwrnod o wersi wnes i golli. Roeddwn i’n drist wrth i ddiwedd y cwrs agosáu, ond roedd hefyd yn rhyddhad gan ei fod yn amser prysur iawn.  Rwyf wedi cael lle i astudio Ysgrifennu Creadigol gyda Drama a Theatr yn Aberystwyth ym mis Medi, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr.”

Dywed Dr Debra Croft, Rheolwraig Prifysgol Haf Aberystwyth, bod llwyddiant y cynllun yn deillio o adael grŵp mawr o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru i ddod ynghyd am gyfnod estynedig i astudio pynciau sydd o ddiddordeb iddynt, wedi eu dysgu gan academyddion o’r Adrannau, gan adlewyrchu bywyd prifysgol mor agos â phosib.

“Mae gan y myfyrwyr chwe wythnos gyfan i brofi bywyd prifysgol, addasu i’r profiad o fyw i ffwrdd o gartref, y pwysau cyfunol o waith academaidd a therfynau amser, chwaraeon a gweithgareddau.  Maent yn dysgu sgiliau trefnu a rheoli amser, sydd yn eu galluogi i fwynhau amserlen lawn o weithgareddau ar y campws ac yn yr ardal leol.”

Dywedodd Sam Hughes mai’r rhan orau o’r chwe wythnos oedd cwrdd â phobl newydd.  Astudiodd Mathemateg a Gwyddoniaeth Fforensig, a dywedodd bod ei diwtoriaid yn barod iawn i helpu.  Ychwanegodd bod y “Brifysgol Haf wedi cadarnhau fy nymuniad i fynd i’r brifysgol”.

Disgrifiodd Anjuma Begum y profiad fel “amser gorau fy mywyd” a dywedodd ei bod wedi ennill llawer o hyder o ganlyniad i’r cwrs chwe wythnos.  “O’r blaen doeddwn ddim yn siŵr os oeddwn am fynd i’r brifysgol, ond nawr byddaf yn bendant yn mynd.”

Mae’r Brifysgol Haf hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr presennol o Brifysgol Aberystwyth i weithio fel Arweinwyr Myfyrwyr.

Un o Arweinwyr Myfyrwyr eleni oedd George Smith o Lannau Dyfrdwy sydd yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Milwrol.

Roedd George yn gyfrifol am bymtheg o fyfyrwyr ar y cwrs eleni, ar ôl mynychu’r cwrs yn 2012.

Dywedodd George:  “Rwy’n mwynhau’r her lle mae pob dydd yn wahanol, ynghyd â gweithio mewn amgylchedd lle gallaf ddefnyddio’r sgiliau ddechreuais eu dysgu fel myfyriwr yn y Brifysgol Haf dair blynedd yn nôl.”

Mae George ar fin dechrau blwyddyn olaf ei gwrs a bydd ei draethawd hir yn canolbwyntio ar awyrennau ymladd o’r Rhyfel Oer a dirywiad nerth awyr Prydeinig.

Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield

Roedd seremoni raddio’r Brifysgol Haf eleni hefyd yn cydnabod gwaith tri myfyriwr Lleoliad Ymchwil Sefydliad Nuffield: Jordan Manley, Mollie Davies a Joshua Churchill.

Mae Mollie wedi treulio’r haf yn ymchwilio i agweddau  tuag at addysg uwch, gan ddefnyddio data ystadegol a chyfweliadau strwythuredig, tra bod Jordan a Joshua wedi gweithio gydag ymchwilwyr ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a podiatrydd lleol i ddatblygu dull safonol o blotio amrediad mudiant unigolyn yn y gobaith o adnabod gwendidau neu gyfyngiadau.

Dywedodd Andrea Meyrick, cydlynydd lleoliadau Nuffield yng Nghymru ar ran Techniquest:  “Mae 76 o fyfyrwyr ar draws Cymru wedi bod ar leoliadau 4-6 wythnos gydag amryw o fudiadau a phrifysgolion.  Mae’r holl fyfyrwyr sydd yn cymryd rhan yn y lleoliadau ymchwil Nuffield yn bobl ifainc alluog, a bwriad y lleoliadau yw sianelu’r gallu hwn tuag at feysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

Gan fod y Lleoliadau Nuffield yn rhan o’r Brifysgol Haf ehangach yn Aberystwyth, mae’r myfyrwyr yn profi bywyd prifysgol yn ogystal â byd ymchwil, sydd yn unigryw ymysg y lleoliadau yng Nghymru.”

Dywedodd Kevin Manley, tad Joshua Churchill, bod ei fab wedi mwynhau’r lleoliad yn fawr a'i fod bellach yn bwriadu astudio bioleg yn y brifysgol.  Ychwanegodd:  “Rydyn ni’n falch iawn ohono, yn enwedig ar ôl iddo gael canlyniadau AS rhagorol, 3 B mewn mathemateg, ffiseg a bioleg.”

Ychwanegodd Dr Debra Croft:  “Mae myfyrwyr sydd yn y flwyddyn gyntaf o gwrs ôl-16 gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg neu fathemateg yn gymwys i ymgeisio am leoliad Nuffield - ac mae anogaeth arbennig yn cael ei rhoi yma yn Aberystwyth i’r rhai sydd heb hanes teuluol o fynychu prifysgol neu sydd yn mynychu ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig.

AU28415