Cyn-fyfyriwr yn ymuno â phrosiect Ice Warrior

Lee Edgington

Lee Edgington

26 Awst 2015

Mae Lee Edgington, sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, wedi ei ddewis i ymuno â thaith uchelgeisiol i fod y cyntaf i gyrraedd y Pegwn Gogleddol Anhygyrch.

Graddiodd Lee, sydd o’r Dre Newydd ym Mhowys, mewn Seicoleg ym mis Gorffennaf 2015 ac mae’n ymuno â phrosiect Ice Warrior, sy’n cael ei arwain gan Jim McNeill, fforiwr profiadol ac uchel ei barch.

Bydd y tîm yn cychwyn ar daith i’r Pegwn Gogleddol Anhygyrch, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw Pegwn yr Arctig, ym mis Chwefror 2016.

Diffinnir y Pegwn Gogledd Anhygyrch fel y pwynt pellaf o’r tir ym Môr yr Arctig a’r man canol. Caiff ei ystyried fel y man olaf yn yr Arctig sydd heb ei gyrraedd ar droed, ac mae 200 milltir tu hwnt i’r Pegwn Gogledd Daearyddol.

Bydd y daith yn ymestyn dros 800 milltir o lannau gogleddol Canada ac yn cynnwys y Pegwn Gogleddol Magnetig a’r sialens o groesi rhew môr twyllodrus yn un o’r amgylchoedd mwyaf digroeso ar y Ddaear.

Yn sgil cael ei ddewis ar gyfer prosiect Ice Warrior, mae Lee yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi ddwys a chynhwysfawr er mwyn ei baratoi ar gyfer wynebu o leiaf un cymal 20 diwrnod, gyda’r bwriad o deithio tua 200 milltir ar draws y cefnfor Arctig.

Yn ystod y daith, bydd aelodau o’r tîm yn casglu data hollbwysig ar gyfer y gymuned wyddonol, gan gynnwys data newydd ar sut mae rhew môr yn torri, gan wneud yr ymgais yn brosiect gwyddoniaeth dinasyddion o bwys.

Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys gwyddonwyr o’r Ganolfan Eira a Rhew Cenedlaethol yn yr UDA sydd wedi ei ariannu gan NASA, y Swyddfa Dywydd, Sefydliad Pegynol Scott, Sefydliad Pegynol Norwy a Sefydliad Ymchwil Arctig ac Antarctig Rwsia.  Bwriad casglu’r data yw bwrw goleuni ar ganlyniadau newid hinsawdd a rhoi pwrpas gwerth chweil ychwanegol i’r prosiect.

Dywedodd Lee: “Dwi’n methu disgrifio pa mor gyffrous yr ydwyf o gael fy newis ar gyfer y tîm.  Tan nawr, breuddwyd yn unig i mi oedd bod yn rhan o rywbeth ar y raddfa yma.  Rwy’n hynod o falch ym mod yn rhan o’r prosiect hwn a’r cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at y mater o newid hinsawdd. 

“Ar lefel bersonol, gan i mi raddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Seicoleg, mae’r daith yn gyfle perffaith i gyfuno fy angerdd am antur awyr agored gyda gwyddoniaeth dinasyddion go iawn.

“Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol o’r peryglon sy’n gysylltiedig gyda theithiau i’r pegynau.  Ymysg y peryglon mae tymheredd rhewllyd sydd yn gallu rhewi’r cnawd mewn eiliadau, cefnfor sydd yn medru ein llyncu yn gyfan, ac eirth gwyn fydd yn ein hela. 

“Er hyn rwy’n ffyddiog y byddwn, gydag arweiniad a hyfforddiant Jim, yn ddiogel.  Wrth baratoi’n drwyadl, gweithio fel tîm, bod yn hollol benderfynol, dwi’n hyderus y byddwn yn llwyddo.”

Dywedodd Jim McNeill, arweinydd y daith:  “Dwi wrth fy modd bod Lee yn rhan o’r tîm ar gyfer y daith ac edrychaf ymlaen at ei hyfforddi ym mhob agwedd er mwyn ei wneud yn deithiwr pegynol cymwys.”