Penodi Dr Debra Croft yn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb

Dr Debra Croft

Dr Debra Croft

04 Medi 2015

Penodwyd Dr Debra Croft yn Gyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth. Bydd Dr Croft yn dal y swydd ochr yn ochr â’i rôl fel Rheolwr y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol.

Bydd Dr Croft yn gweithio ochr yn ochr gyda Grŵp Gweithredol y Brifysgol, ac yn gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a sicrhau cyfeiriad strategol y Brifysgol ym maes cydraddoldeb, ac am sicrhau canlyniadau sy’n cael eu monitro a'u cyflwyno'n llwyddiannus.

Wrth drafod ei phenodiad dywedodd Dr Croft: “Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Cydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac i ail-lunio’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad i gwmpasu’r agenda ehangach hon.

“Mae pwyslais cynyddol ar draws y sector Addysg Uwch yn y Deyrnas Gyfunol ar yr agenda bwysig hon – y tu hwnt i hunaniaeth rhyw ac anabledd.  Mae’r Llywodraeth a chyrff cenedlaethol gan gynnwys Cyngor Ymchwil y DG, yn adnabod pwysigrwydd cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth i addysg uwch, yn enwedig mewn cyfnod o newid cyflym. 

“Rwyf wedi gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth am ddeng mlynedd, ac yn gwerthfawrogi ein cymuned yn ei ddiffiniad ehangaf. Bydd y rôl newydd hon yn gyfle i fi weithio gyda myfyrwyr a staff ar draws pob adran: rhai academaidd, rhai sydd yn edrych tuag allan a meysydd gwasanaeth ystafell gefn, i ddatblygu ymhellach ein fframwaith cydraddoldeb, fel rhan ganolog o ddyfodol y Brifysgol.”

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:  “Rwyf wrth fy modd bod Debra yn mynd i arwain yr agenda cydraddoldeb ar draws y Brifysgol, a hoffwn ei llongyfarch ar ei hapwyntiad.

“Gan weithio'n agos gyda thimau Gwasanaethau Proffesiynol a’r Athrofeydd; Undeb y Myfyrwyr; grwpiau fel rhwydwaith LGBT y Brifysgol, y Gymdeithas Ffeministaidd, a Grŵp Mynediad i'r Anabl; a gyda Stonewall a'r Uned Her Cydraddoldeb, bydd Debra yn gweithio i adeiladu ar ein llwyddiannau ac yn gyrru cymal nesaf y gwaith o ddatblygu strategaeth cydraddoldeb y Brifysgol.

“Fel Rheolwr Canolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol, daw Dr Croft â chyfoeth o brofiad ac adnabyddiaeth o’r rhwystrau sy'n wynebu llawer o bobl wrth iddynt gael mynediad i ddysgu a chyflogaeth, a'r hyn y gallwn ni gyd ei wneud i unioni anghydraddoldeb.”

Mae Dr Croft yn raddedig mewn Daeareg / Gwyddor yr Amgylchedd o Brifysgol Llundain, a derbyniodd radd MSc mewn Daeareg Mwyngloddio o Brifysgol Caerwysg a Doethuriaeth mewn Gwyddorau Daear Fforensig o Brifysgol Llundain.

Cwblhaodd dystysgrif uwchraddedig Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch gyda’r Brifysgol Agored, ac mae hi’n aelod o’r Academi Addysg Uwch.

Bydd Dr Croft yn cychwyn yn ei rôl newydd ar 21 Medi 2015.

AU27815