Fferm Penglais yn barod i groesawu 700 o fyfyrwyr

Fferm Penglais

Fferm Penglais

14 Medi 2015

Mae llety newydd £45m i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn barod i dderbyn 700 o fyfyrwyr yn ddiweddarach yr wythnos hon, mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Ysbrydolwyd dyluniad Fferm Penglais gan dirwedd a phensaernïaeth Cymru wledig, ac mae’n cynnwys llety myfyrwyr sydd gyda’r gorau mewn unrhyw brifysgol ym Mhrydain, mewn cyfres o adeiladau tri llawr gyda fflatiau i chwech neu wyth o fyfyrwyr mewn llety hunanarlwyo.

Mae pob adeilad yn cynnig ystafelloedd gwely en-suite hael, ceginau dwbl ac ardaloedd lolfa cynllun agored. Yr ystafelloedd unigol yw’r mwyaf sydd ar gael ym mhreswylfeydd y Brifysgol, ac mae pob ystafell yn cynnig digon o le i fyfyrwyr fyw ac astudio, a mynediad i'r rhyngrwyd drwy wifrau caled neu Wi-Fi.

Er mwyn hyrwyddo gweithgareddau dysgu a chymdeithasol ceir canolfan sy’n darparu ystod o adnoddau cymdeithasol a dysgu gan gynnwys golchdai, storfa beiciau, gofod cymunedol ar gyfer clybiau a chymdeithasau, a chaffi.

Yn ogystal â'r amgylchedd hardd, mae Fferm Penglais yn cynnig golygfeydd gwych ar draws Bae Ceredigion.

Dywedodd Jim Wallace, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws a Masnachol: “Mae ymateb myfyrwyr i’r adnoddau newydd y mae Fferm Penglais yn eu cynnig wedi bod yn wych ac mae’r Brifysgol yn falch iawn y bydd pob un o’r 700 o ystafelloedd sy’n barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn llawn."

Pan fydd Fferm Penglais wedi ei chwblhau, bydd yn cynnig llety i 1000 o fyfyrwyr. Bydd y 300 o ystafelloedd sydd yn weddill yn cael eu cwblhau eleni, ac ar agor i fyfyrwyr o fis Medi 2016.

AU30215