Aberystwyth yn dringo 50 safle yn nhabl cynghrair Prifysgolion y Byd y Times Higher Education

30 Medi 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 50 safle yn nhabl cynghrair Prifysgolion y Byd 2015-16 y Times Higher Education sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 30 Medi.

Mae Aberystwyth wedi’i chynnwys yn y band 301-350 o’r 800 o sefydliadau ledled y byd sydd wedi eu cynnwys, a hefyd wedi dringo i'r 40 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol, i safle 39ain allan o 78.

Sail y tabl yw perfformiad prifysgolion mewn pum maes; addysgu, ymchwil, cyfeiriadau at waith academaidd gan eraill, incwm o ddiwydiant ac agwedd rhyngwladol. Cafodd Aberystwyth ganlyniadau rhagorol am ei hagwedd rhyngwladol (safle 162) a chyfeiriadau at waith academaidd gan eraill (safle 260).

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o welliannau yn y tablau cynghrair, ac mae adlewyrchu’r hyn a welwyd yn nhablau The Times/The Sunday Times Good University Guide a’r QS World University Rankings. Mae'r cynnydd yn gadarnhad o’r gydnabyddiaeth gynyddol o’r ymchwil a’r gwaith rhagorol sydd wedi ei wneud i wella’r profiad myfyrwyr yma yn Aberystwyth.”  

Dywedodd Phil Baty, Golygydd tabl cynghrair prifysgolion y byd y Times Higher Education: "Mae tabl cynghrair prifysgolion y byd y Times Higher Education, sydd bellach yn ei 12fed blwyddyn, yn defnyddio safonau trwyadl ac yn meincnodi ar draws amcanion allweddol prifysgol ymchwil fyd-eang - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agwedd rhyngwladol. Mae myfyrwyr a’u teuluoedd, academyddion, arweinwyr prifysgol a llywodraeth yn ymddiried yn y canlyniadau. I Brifysgol Aberystwyth gyrraedd 301-350 yn y byd, mae’n gyrhaeddiad rhagorol i’w ddathlu.”

Tabl cynghrair prifysgolion y byd y Times Higher Education yw’r trydydd tabl cynghrair i’w gyhoeddi mewn ychydig dros bythefnos lle mae safle Prifysgol Aberystwyth wedi gwella’n sylweddol.

Roedd Prifysgol Aberystwyth yn un o’r prif ddringwyr yn nhabl The Times/Sunday Times Good University Guide a gyhoeddwyd ar yr 20fed o Fedi, i fyny 14 safle, ac i fyny 100 safle yn y QS World University Rankings a gyhoeddwyd ar y 15fed o Fedi.

Mae rhagor o wybodaeth am dabl cynghrair prifysgolion y byd yTimes Higher Education ar gael yma.