Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod y Sylfaenwyr

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

15 Hydref 2015

Heddiw, dydd Iau 15 Hydref, mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei gorffennol, y presennol a'i dyfodol ail sefydlu Diwrnod y Sylfaenwyr.

Drwy ddod â chynrychiolwyr o'r Brifysgol a'r gymuned leol at ei gilydd, mae’r dathliadau yn adlewyrchu’r ethos y tu ôl i'r dathliadau gwreiddiol a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg ar 15 Hydref, 1872.

Mae Diwrnod y Sefydlwyr yn nodi sut mae'r Brifysgol wedi bod yn creu hanes ers y 1850au, pan gyfarfu grŵp bach o wladgarwyr, dan arweiniad Hugh Owen, un o Gymry Llundain, a gododd ddigon o arian drwy danysgrifiadau cyhoeddus a phreifat i sefydlu coleg o statws prifysgol yng Nghymru.

Gwesty a adeiladwyd gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin oedd yr Hen Goleg yn wreiddiol, ond fe’i prynwyd gan bwyllgor Prifysgol Cymru am £10,000 mewn 1867, rhan fechan o'r gost o’i adeiladu. Cyrhaeddodd y myfyrwyr cyntaf yn Hydref 1872.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor: "Mae sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn un o'r straeon mawr rhamantus, yn wir arwrol, yn hanes Cymru fodern. Fel man geni ysgolheictod prifysgol yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'n treftadaeth ac yn edrych ymlaen at goffáu un o'r digwyddiadau mwyaf arbennig yng nghalendr y Brifysgol.

"Heddiw, rydym wedi tyfu o seiliau lleol cadarn i fod yn sefydliad â phresenoldeb byd-eang. Yn ogystal â bod yn lle sy’n cynnig dewis cyfoethog o gyfleoedd academaidd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i gwreiddio'n ddwfn yn y gymuned. Rydym yn rhan annatod o'r dref ac mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y gymuned leol yn glir.

“Mae gan brosiect Bywyd Newydd  i’r Hen Goleg weledigaeth i drawsnewid yr Hen Goleg yn ganolfan ddeinamig o ddysgu, treftadaeth a diwylliant a fydd yn darparu cyfleusterau ardderchog i'r Brifysgol ac i bobl Aberystwyth a thu hwnt.”

Meddai Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o fod yn anrhydeddu ac yn dathlu cyfraniad ein Sylfaenwyr a’n cefnogwyr yng nghwmni myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol. Mae hanes eu gweledigaeth a’u penderfyniad yn un sy’n eiddo i bob un ohonom, a gosododd y sylfeini ar gyfer y buddion academaidd ac economaidd a ddaeth i Aberystwyth a chanolbarth a gorllewin Cymru ers bron i ganrif a hanner. Rydym bellach yn edrych ymlaen at adeiladu ar yr ysbrydoliaeth a’r uchelgais yma fel cymuned er mwyn creu dyfodol mwy disglair i’r Hen Goleg, adeilad sy'n golygu cymaint i gymaint o bobl.”

Meddai Lewis Donnelly, Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: "O'r diwrnod cyntaf un, mae cymuned myfyrwyr Aberystwyth wedi tyfu i fod yn gymuned ryngwladol gyda chynrychiolwyr o fwy na 90 o wledydd. Bydd y rhai sy'n astudio yma heddiw yn ymuno â chymuned o 60,000 o alumni Aber ar draws y byd, ac fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr mae'n fraint cael nodi’r diwrnod hwn, ac wrth wneud hynny leisio cefnogaeth myfyrwyr heddiw i'r prosiect i ddod â bywyd newydd i'r Hen Goleg. Fel cartref addysg prifysgol yng Nghymru, mae’n rhan o’n treftadaeth, ac yn symbol o'n hymrwymiad i ddysgu a chyfrannu at y byd o'n cwmpas. "

Fel rhan o'r dathliadau, mae gwahoddiad i fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r cyhoedd i ymuno â thaith dywys rhad ac am ddim o gwmpas yr Hen Goleg. Bydd teithiau yn gadael y Cwad tu mewn i'r Hen Goleg a bydd yn rhoi cyfle i archwilio rhannau o'r adeilad nad ydynt yn hygyrch i'r cyhoedd fel arfer. Gellir cael gwybodaeth bellach ar gael yma.

Hefyd, bydd eitemau o archif y Brifysgol yn cael eu harddangos:

Llyfr cofnodion cyntaf Prifysgol Cymru, sy'n dogfennu'r ymdrechion Hugh Owen ac eraill i sefydlu Prifysgol yng Nghymru; o gyfarfod cyntaf y pwyllgor yn 1863, at brynu Gwesty'r Castell, dyfodiad y myfyrwyr cyntaf yn 1872, a thu hwnt i 1874.

Y gofrestr myfyrwyr cyntaf (1872-1879), sy’n cofnodi myfyrwyr rhif 1 i 376, gan gynnwys y rhai a gofrestrodd ar gyfer y tymor agoriadol yn Hydref 1872.

Telesgop o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhodd i’r Brifysgol gan Syr John Williams, cymwynaswr i’r Brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd Williams yn feddyg i’r  Frenhines Fictoria.

AU33315