Cyn-fyfyriwr Aberystwyth yn dweud ‘diolch’ gyda rhodd ysgoloriaeth o £506,000

Peter Hancock

Peter Hancock

15 Hydref 2015

Fel diolch am yr ysgoloriaeth a ddyfarnwyd iddo hanner canrif yn ôl ac a arweiniodd at yrfa academaidd a busnes lwyddiannus, mae’r cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth Peter Hancock a'i bartner a chyd gyn-fyfyrwraig Pat Pollard (née Trevitt) wedi cyflwyno gwaddol o £506,000 i’r Brifysgol er mwyn creu cronfa ysgoloriaeth newydd o bwys.

Bydd Cronfa Ysgoloriaeth Angen a Theilyngdod Peter Hancock yn cael ei lansio ym mis Tachwedd 2015 i ddyfarnu ysgoloriaethau i ‘fyfyrwyr haeddiannol, disglair mewn angen ym Mlwyddyn 2 Anrhydedd neu gyfwerth, mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedl ac sy'n dangos potensial i fod o fudd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus.'

Meddai Peter Hancock, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Seland Newydd: "Yr elfen allweddol drwy gyflwyno’r rhodd hon yw rhoi rhywbeth yn ôl i fywyd myfyriwr ac i’r Brifysgol a roddodd, hanner canrif yn ôl gymaint i mi yn academaidd, yn gymdeithasol ac o ran datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth a busnes. Ar yr un pryd, rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth drwy ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol, sydd mewn angen er mwyn eu galluogi i ddechrau gyrfaoedd gwerth chweil sy'n cyfrannu at gymdeithas ac felly, yn eu tro, yn helpu pobl eraill."

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, April McMahon, "Mae cymorth dyngarol ar gyfer ysgoloriaethau yn bwysig dros ben a bydd effaith haelioni Mr Hancock yn cael ei deimlo ar draws y Brifysgol am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n credu’n gryf iddo fwynhau gyrfa broffesiynol fel peiriannwr a daearegwr archwilio a’r budd ariannol a ddaeth yn sgil hynny oherwydd ysgoloriaeth a ddarparwyd drwy'r Brifysgol, hebddi, ni fyddai wedi gallu cwblhau gradd anrhydedd - dyna pam fod ffocws y Gronfa ar gefnogi myfyrwyr yr ail flwyddyn i gwblhau eu graddau yn llwyddiannus.

Mae’r rhodd hon yn cyd-fynd yn berffaith â blaenoriaethau’r Brifysgol o lwyddiant myfyrwyr, rhagoriaeth ac o weithio i gefnogi a chadw myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol."

Meddai Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, "Rydym yn ddiolchgar iawn i Peter a Pat am eu cefnogaeth hael i’n myfyrwyr drwy’r waddol barhaol hon. Credir mai dyma un o'r rhoddion unigol mwyaf erioed i’r Brifysgol ei derbyn gan roddwr byw. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad i gymryd rhan weithredol wrth ddewis a pharhau i gefnogi myfyrwyr sy'n elwa o ysgoloriaeth drwy fentora a chyngori. Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o weithio mewn partneriaeth â chyn-fyfyrwyr i gefnogi ei myfyrwyr ac i hybu uchelgais y Brifysgol, a gwn y bydd Peter a Pat yn ysbrydoli nifer o blith y jymuned o 60,000 o gyn-fyfyrwyr o gwmpas y byd gyda’u cefnogaeth dyngarol a gweithgar."

Peter Hancock

Graddiodd Peter Hancock o Aberystwyth mewn Daeareg yn 1962 a dechreuodd ei yrfa yn mapio daeareg Canolbarth Awstralia. Roedd ei yrfa mewn llywodraeth, diwydiant ac ymgynghoriaeth fel periannydd a daearegydd archwilio yn Awstralia, Seland Newydd, UDA a Chanada yn cynnwys darganfod adnoddau mwynau newydd ac ymchwilio neu oruchwylio prosiectau pibelli nwy mawr, trydan dŵr a dyfrhau, gweithfeydd gwaredu elifiant, sefydlogrwydd tir ac adrodd ar ddiwydrwydd dyladwy ar adnoddau mwynol. Yn Seland Newydd, mae wedi cynrychioli nifer o gleientiaid gerbron tribiwnlysoedd barnwrol a'r llys cyflafareddu.

Mae wedi bod yn athro, darlithydd, ymchwilydd ac awdur ar y canfyddiadau a gwirioneddau datblygu adnoddau, gan arwain at yrfa yn ddiweddarach fel hwylusydd yn datrys gwrthdaro ar ddatblygu adnoddau amgylcheddol, a materion hiliol ac anfantais brodorol.

Mae wedi dal swyddi darlithio ym Mhrifysgol De Awstralia a Phrifysgol Waikato ac roedd yn Gymrawd Gwadd yn ANU am 19 mlynedd gan ddarparu cyrsiau darlithio ac aseiniadau ymchwil amlddisgyblaethol. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Sefydlol ar Ganolfan ANU ar gyfer Deialog.

Fel Cymrawd a Gweithiwr Proffesiynol Siartredig o Sefydliad Mwynau AusIMM - mae'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Cydymffurfio sy’n delio â honiadau o dorri Côd y Sefydliad Moeseg. Mae wedi mwynhau buddion busnes a phrofiad ymarferol mewn rheoli ymgynghoriaeth, cynnyrch llaeth, ffermio ceirw a defaid a rheoli eiddo. Teimla mae’r profiad a roddodd y boddhad mwyaf iddo oedd adeiladu cytgord rhyng-hiliol a rhyng-lwythol trwy ddeialog adeiladol, sydd wedi helpu i leihau trais a gwella ansawdd bywyd i bobl brodorol yr Aborigini.

AU33815