Prifysgol Aberystwyth yn codi’r Faner Werdd i ddathlu gwobr campws gwyrdd

Codi'r Faner Werdd

Codi'r Faner Werdd

21 Hydref 2015

Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth yw’r campws Prifysgol cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Y Faner Werdd.

Ymunodd aelodau o Adran Datblygu Ystadau’r Brifysgol â’r Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon, ac Alaw Ceris o Cadwch Gymru’n Daclus i godi’r Faner Werdd ar gampws Penglais ar ddydd Mercher 21 Hydref.

Mae Gwobr Y Faner Werdd yn bartneriaeth ar draws y Deyrnas Gyfunol, sy’n cael ei gweithredu yng Nghymru gan Cadwch Cymru’n Daclus gyda chefnogaeth Adnoddau Naturiol Cymru, sydd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd o safon uchel.

Mae’r beirniaid yn arbenigwyr mewn gofod gwyrdd ac yn eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym sy’n cynnwys safonau garddwriaethol, glendid, cynaliadwyedd a chyfranogiad y gymuned.

Eleni, torrwyd record wrth i 110 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru gael eu dyfarnu yn deilwng o Wobr y Faner Werdd neu Wobr Gymunedol y Faner Werdd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Ystâd Prifysgol Aberystwyth, Mark Taylor: “Mae'n braf gweld gwaith caled pawb sy'n rhan o hyn yn cael ei wobrwyo, yn enwedig ein Tîm Tiroedd, a bod ystâd y Brifysgol yn cael ei chydnabod fel lle diogel, gwyrdd a phleserus i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Ein nod yw gwella ein tiroedd a’n adeiladau mewn modd mwy integredig o fewn ein strategaeth ystadau ddiwygiedig ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Rheolwr Tiroedd Prifysgol Aberystwyth, Paul Evans: “Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr ac yn arbennig gan taw ni yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i’w derbyn.”

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd gyda Cadwch Gymru'n Daclus: “Rydym yn falch iawn o ddathlu’r flwyddyn orau erioed i’r cynllun Gwobr y Faner Werdd. Mae pob un o'r baneri sy’n cael eu chwifio eleni yn dyst i ymdrechion y cannoedd o ddynion a menywod, yn staff a gwirfoddolwyr, sy'n gweithio'n ddiflino i gynnal y safonau uchel a fynnir gan wobr Y Faner Werdd.”

Bwriad y Brifysgol yw ymestyn Gwobr y Faner Werdd i’w safleoedd eraill, gan gynnwys Canolfan Llanbadarn a Gogerddan.

Bydd y datblygiadau hynny yn adlewyrchu nod strategol y Brifysgol, sy’n cael ei amlinellu yn Strategaeth Ystadau 2012-2027 y Brifysgol, ‘Adeiladu ein dyfodol’, o ddarparu amgylchedd pwrpasol o safon uchel ar gyfer ein myfyrwyr, staff a’r gymuned leol.

AU33715