Arbenigwr ar gyfraith Guantanamo yn siaradwr gwadd

Mitch Robinson - cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth ac arbenigwr ar gyfraith ryngwladol

Mitch Robinson - cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth ac arbenigwr ar gyfraith ryngwladol

26 Hydref 2015

Bydd y cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a’r arbenigwr ar gyfraith ryngwladol Mitch Robinson yn cyfrannu at drafodaeth banel ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 4 Tachwedd am 6pm ar y pwnc ‘International Politics and International Law, Theory and Practice: The Case of Guantanamo’.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Adran y Gyfraith a Throseddeg lle bu Mitch yn astudio yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn graddio yn 2005 gyda gradd Meistr yn y Gyfraith (LLM).

Mae Mitch yn arbenigwr ar gyfraith ryngwladol y gosb eithaf ym Mae Guantanamo Bay, a bu ei waith yn allweddol wrth gael adroddiadau a chynseiliau a oedd yn torri tir newydd oddi wrth y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â hawliau proses ac adsefydlu pobl a oedd wedi eu harteithio.

Bydd yr Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg a Dr Kamila Stullerova o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymuno â Mitch ar y panel.

"Mae'n sicr y bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi trafodaeth ddiddorol ac yn cynnig cyfle i aelodau o'r gynulleidfa i gyfrannu at y drafodaeth a gofyn cwestiynau i'r panel" meddai Dr Jenny Mathers, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, a chadeirydd y digwyddiad.

Dywedodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg: “Rydym yn falch iawn o gael croesawu Mitch yn ôl i Brifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at ei weld yn rhannu gyda ni ei brofiadau a’i arbenigedd broffesiynol. Yn ystod ei ymweliad mae gennym raglen lawn o weithgareddau, gan gynnwys seminarau myfyrwyr a sesiwn sgiliau cyflogadwyedd ynghyd â'r drafodaeth panel, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mitch am yr amser y bydd yn ei dreulio gyda ni yn ei alma mater.”

Cynhelir y panel trafod yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ar Ganolfan Llanbadarn ar ddydd Mercher y 4ydd o Dachwedd 2015. Darperir lluniaeth yng nghyntedd Adeilad Elystan Morgan o 17.30 gyda'r drafodaeth panel yn dechrau am 18.00. Mae croeso i bawb i’r digwyddiad hwn sydd yn rhad ac am ddim a does dim angen bwcio ymlaen llaw.

AU34715