Lansio gradd newydd BSc mewn Rheolaeth Twristiaeth Antur

Astudiwch dwristiaeth a busnes mewn amgylchedd awyr agored o'r radd flaenaf!

Astudiwch dwristiaeth a busnes mewn amgylchedd awyr agored o'r radd flaenaf!

04 Tachwedd 2015

I gyd-fynd gyda Blwyddyn Antur Croeso Cymru 2016 mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio gradd newydd mewn Rheolaeth Twristiaeth Antur.

Bydd y radd yn dechrau ym Medi 2016 ac yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i sefydlu a gweithredu mentrau twristiaeth sy'n darparu gwyliau yn yr awyr agored yn seiliedig ar weithgareddau antur.

Mae'r radd yn ei adeiladu ar sylfeini busnes cryf, yn enwedig marchnata a rheoli busnes bach, a fydd yn arwain at amrywiaeth eang o opsiynau cyflogaeth.

Dywedodd Dr Carl Cater, Cyfarwyddwr Israddedig yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, ac Uwch Ddarlithydd mewn Twristiaeth: “Un o nodweddion unigryw'r radd hon yw bod myfyrwyr yn gallu ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol wrth astudio, gan eu galluogi i ddatblygu eu cymhwysedd mewn gweithgaredd awyr agored penodedig, yn ogystal â gwella eu cyflogadwyedd.

“Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn weithgar mewn ymchwil sy'n arwain y byd i dwristiaeth antur ac yn gysylltiedig â Chymdeithas Ymchwil Twristiaeth Antur. Ac, wrth gwrs mae Aberystwyth a'r ardaloedd cyfagos yn cynnig cyfleoedd antur heb eu hail i’n myfyrwyr, gan eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad i'r lefelau uchaf.”

Mae ceisiadau ar gyfer y cwrs nawr ar agor (côd N870). Am ragor o fanylion cysylltwch â: Ysgol Rheolaeth a Busnes, Prifysgol Aberystwyth, Adeilad Rheidol, Aberystwyth, SY23 3AL Ffôn: +44 1970 622500 Ffacs: +44 1970 622409 E-bost: smb-enquiries@aber.ac.uk

AU35615