Awdur Plant yn Gymrawd Ysgrifennu'r Gronfa Lenyddol Frenhinol

Yr awdur Jon Mayhew

Yr awdur Jon Mayhew

23 Tachwedd 2015

Jon Mayhew yw Cymrawd Ysgrifennu newydd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y rôl hon mae ar gael i gynorthwyo myfyrwyr i wella'u hysgrifennu academaidd, i werthuso drafftiau cychwynnol a chynnig cyngor adeiladol.

Awdur nofelau antur i blant yw Jon ac mae ei waith wedi ei gyhoeddwyd gan Bloomsbury, Collins, a gwasg Prifysgol Rhydychen. Cafodd ei nofel antur othig Fictorianaidd, Mortlock ei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn i Blant Waterstones ac enillodd wobrau llyfrau plant Leeds, Calderdale, Sefton a Swydd Warwig. Enillodd ei ail lyfr, The Demon Collector, wobr Llyfr Clawr Meddal y Flwyddyn Wirral. Mae ei waith yn ymddangos yn rheolaidd ar restrau gwobrau rhanbarthol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

"Mae plant a phobl ifanc yn gynulleidfa heriol, ac mae rhaid ysgrifennu yn dda a chyfathrebu syniadau cymhleth mewn ffordd syml os am gysylltu â nhw,” meddai Jon. "Nid yw rhyddiaith flodeuog yn mynd i greu argraff arnynt, nac ychwaith ar eich tiwtoriaid!"

Cyfrannodd Jon erthyglau a darnau am ysgrifennu i blant at amryw gyhoeddiadau gan gynnwys The Children’s Writers’ and Artists’ Yearbook (Bloomsbury).

Bu Jon yn athro am bum mlynedd ar hugain ac mae’n frwd iawn dros annog awduron a darllenwyr o bob oed a gallu. Mae’n cyflwyno gweithdai ysgrifennu mewn ysgolion ac mewn gwyliau llenyddol, ac mae'n Noddwr Darllen mewn dwy ysgol uwchradd. Mae'r rôl newydd hon yn Aberystwyth yn un y mae’n edrych ymlaen yn fawr iawn ati.

“Mae’n wych pan fydd rhywbeth yn 'clicio' mewn strwythur neu’r ffordd y mae aseiniad yn llifo, a cheir cryn foddhad wrth glywed bod graddau wedi mynd i fyny! Wrth gwrs, i lawer o fyfyrwyr ail bâr o lygaid dros ddrafft cychwynnol yn unig sydd ei angen i roi hyder iddynt ac mae hynny'n rhoi boddhad hefyd."

Mae Jon yn byw gyda’i deulu ar Benrhyn Cilgwri. Er tro byd bu baledi a chwedlau traddodiadol yn nodd i wreiddiau llawn dychymyg Jon. Mae wrth ei fodd gyda cherddoriaeth a chaneuon traddodiadol ac mae’n chwarae’r mandolin mewn bandiau ceilidh. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar nofel am ferch ag epilepsi, gan blethu llinynnau o fytholeg Cymru’r gororau a'r Mabinogi, a’i obaith yw y bydd ei amser ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn gymorth iddo ehangu ei adnabyddiaeth a’i werthfawrogiad o’r dylanwadau hyn.

I drefnu apwyntiad gyda Jon anfonwch e-bost at writers@aber.ac.uk

AU37315