Cyn-fyfyrwyr yn Llundain yn ymuno â Dathliad Sylfaenwyr

Y Farwnes Andrews

Y Farwnes Andrews

01 Rhagfyr 2015

Roedd cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth â’r Cymrawd er Anrhydedd a’r gyn-fyfyrwraig, y Farwnes Kay Andrews, yr Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon, a Chyfarwyddwr Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni Louise Jagger yn Llundain ar gyfer digwyddiad cyntaf Dathliad Sylfaenwyr a Chylch Rhoi’r Brifysgol ar ddydd Gwener 27 Tachwedd.

143 o flynyddoedd yn ôl, ar y 27ain o Dachwedd 1872, daeth cymwynaswyr a chefnogwyr o Gymry Llundain ynghyd i nodi agor y coleg yn Aberystwyth gyda “llawenydd mawr a gobaith am ddyfodol llwyddiannus i’r Coleg” (College by the Sea, Ewan Morgan tud 16) a dyna fel y bu y tro hwn hefyd.

Mewn digwyddiad llawn yng ngwesty’r St Pancras Renaissance Hotel daeth pawb at ei gilydd i ddathlu gyda llawenydd mawr a gobaith am ddyfodol Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r hanes tu ôl i’r garreg filltir bwysig hon yn hanes addysg yng Nghymru yn unigryw, ac yn ganlyniad i don o gefnogaeth boblogaidd, dychymyg y cyhoedd a haelioni unigol. Adlewyrchwyd  y ginio a gynhaliwyd yn 1872 yn y City Hotel Terminus, Cannon Street, Llundain eleni yng ngwesty ysblennydd y St Pancras Renaissance Hotel.

Ymunodd y Cymrodyr er Anrhydedd, Y Farwnes Kay Andrews ac Ed Thomas, Cyfarwyddwr Creadigol a Cynhyrchydd Gweithredol Fiction Factory (cynhyrchwyr Y Gwyll/Hinterland), Steve Lawrence, Llywydd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, a Janet Lewis-Jones, Cadeirydd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, â’r Is -Ganghellor April McMahon i annog cefnogaeth i Aber trwy areithiau difyr, hwyliog ac a oedd yn ysgogi'r meddwl.

Fel rhan o'r noson gwahoddwyd cyn-fyfyrwyr a ffrindiau i gynorthwyo myfyrwyr mewn tair ffordd benodol: lleihau caledi, hyrwyddo lles, a chreu mwy o gyfleoedd i hyrwyddo rhagolygon cyflogaeth myfyrwyr.

Mae'r Gronfa Caledi Myfyrwyr, sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Alumni Aber, yn cefnogi myfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol annisgwyl neu argyfyngau ac yn gweithredu fel porth ar gyfer cyngor, canllaw ac fel rhwyd ​​ddiogelwch ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn angen.

Er bod cymorth ariannol yn bwysig, mae'r Brifysgol hefyd wedi ymrwymo i les ei myfyrwyr. Fel rhan o brosiect cydweithredol newydd rhwng Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol, bydd cyfleoedd a chefnogaeth ymarfer corff ar gael ochr yn ochr â'r cwnsela a gwasanaethau lles arferol i gefnogi myfyrwyr sy'n delio gyda straen, pryder neu iselder.

Nod y trydydd prosiect yw cynyddu nifer y cyfleoedd i fyfyrwyr, yn yr achos hwn i’r rhai sy’n astudio pynciau sy'n arwain at weithio yn y diwydiannau creadigol hynod gystadleuol. Bydd Cronfa Mynediad i Ddiwydiannau a Mentrau Creadigol yn darparu bwrsariaethau bychain i fyfyrwyr ar gyfer llety a theithio i lleoliadau gwaith, gan godi eu dyheadau a’u hyder, a datblygu eu sgiliau proffesiynol a phersonol.

Dywedodd yr Athro April McMahon,: "Mae sefydlu Prifysgol Aberystwyth yn un o straeon mawr rhamantus, yn wir arwrol, y Gymru fodern. Fel man geni ysgolheictod prifysgol yng Nghymru, rydym yn hynod falch o'n treftadaeth ac yn diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddathlu ac adeiladu ar y sylfeini dyngarol hynny sydd wedi bod yn sail i’n hanes."

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni: "Cymaint oedd poblogrwydd y digwyddiad hwn a'r cyfle i gefnogi myfyrwyr, fe werthwyd y tocynnau i gyd, ac fe gyrhaeddwyd y targed codi arian gwreiddiol bythefnos yn gynt na’r disgwyl.

"Nid yn unig y mae hyn wedi galluogi’r holl brosiectau i symud ymlaen, ond hefyd gynnig mwy nag y gallem fod wedi gobeithio, diolch i haelioni cyn-fyfyrwyr a wnaeth roddion ychwanegol yn y cyfnod yn arwain at, ac ar y noson. Rydym yn diolch i chi yn gynnes am eich rhoddion hynod hael!

"Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliad Cymunedau yng Nghymru sy'n hyrwyddo ac yn rheoli dyngarwch o fewn ac i mewn i Gymru, ac i Ymddiriedolaeth Pears sydd wedi addo cyfrannu punt am bob punt o roddion, hyd at gyfanswm o £ 5,000."

AU38515