Campws Cangen Mawrisiws y cynnal symposiwm ar hawliau dynol

09 Rhagfyr 2015

Ddydd Iau 10 Rhagfyr bydd Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei digwyddiad ymchwil cyntaf; Symposiwm Hawliau Dynol i nodi Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol ar yr un dyddiad.

Cynhelir y symposiwm yng Nghanolfan Gynadledda Trianon ym Mauritius.

Dywedodd Dr David Poyton, Deon Campws Cangen Mawrisiws: "O dan arweiniad arwyddair Prifysgol Aberystwyth, “Nid byd, byd heb wybodaeth”, ein nod yw cyfrannu at rannu gwybodaeth a chynnal trafodaeth academaidd ym Mauritius a thu hwnt".

Cadeirydd y symposiwm fydd Mr Dheerujlall Baramlall Seetulsingh, Cadeirydd Comisiwn Cenedlaethol Mawrisiws ar Hawliau Dynol.

Y siaradwyr fydd: Rajesh Babjee, darlithydd ar Gampws Cangen Mawrisiws a fydd yn trafod ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol yn ymarferol, ei Dyfodol a Thu Hwnt; Morgini Ramen o Brifysgol Mawrisiws a Kalexius (Mawrisiws), a fydd yn trafod  “Newid Hinsawdd fel Mater Hawliau Dynol”; Hannah Baumeister, darlithydd y Gyfraith o Gampws Cangen Mawrisiws a fydd yn trafod “Ydi Caethwasiaeth yn Bodoli o Hyd?”; a’r Athro Rajendra Parsad Gunputh o Brifysgol Mauwrisiws ar ‘Hawliau Gweithwyr yn y Gweithle cyn Diswyddo’.

Mae Campws Cangen Mawrisiws yn gwahodd pobl i gyfrannu drwy anfon cwestiynau at y Symposiwm gan ddefnyddio’r hashnod #HumanRightsSymposium.

AU39015