Datgelu ‘dewin hylifau hud’ yr Hen Goleg, yr Athro Snape

Yr Athro Henry Lloyd Snape:'trowch i dudalen 394'; rhywbeth y byddai wedi ei ddweud efallai?

Yr Athro Henry Lloyd Snape:'trowch i dudalen 394'; rhywbeth y byddai wedi ei ddweud efallai?

16 Rhagfyr 2015

Mae ymchwil gan academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi datgelu bod yr Hen Goleg, sydd wedi ei ddisgrifio fel adeilad Hogwartaidd ar aml i achlysur, wedi bod yn  gartref i Athro Snape tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 20fed.

Mewn erthygl yn yr Irish Times, mae’r Dr Beth Rodgers, darlithydd yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, yn son am Snape, gŵr a ddaeth ar ei draws mewn erthygl am Aberystwyth a gyhoeddwyd yn The Women’s Penny Paper yn 1890, cylchgrawn oedd yn hyrwyddo mynediad i addysgu uwch i fenywod - roedd Aberystwyth yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i dderbyn myfyrwyr benywaidd.

Penodwyd Henry Lloyd Snape i’r Gadair Cemeg, neu “dewin yr hylifau hud” yn ôl disgrifiad Rodgers, ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1888.

Cafodd ei benodi yn dilyn marwolaeth athro cemeg gwreiddiol y Brifysgol, yr Athro Humpdige. Labordy Humpdige oedd man dechrau tân mawr yr Hen Goleg yn 1885 achosodd farwolaeth dri o bobl.

Yn ôl Rodgers, cyhoeddwyd teyrnged iddo yn y Journal of the Chemical Societyyn dilyn ei farwolaeth yn 1933 sy’n ei ddisgrifio fel “gŵr 'egnïol, brwd ac ymroddedig', sy’n cymryd ei wyddoniaeth o ddifrif ond sydd hefyd o ddifrif am lenyddiaeth, brwd dros y gymdeithas ddadlau a chyfrannwr allweddol at ddramâu’r coleg”.

Dyfarnwyd yr OBE iddo yn 1921 am ei waith gyda milwyr oedd wedi eu hanafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfrannodd at Addysg uwchradd yn ogystal ag addysg prifysgol yn Aberystwyth, ac yn ddiweddarach aeth i weithio i Gyngor Swydd Gaerhirfryn fel Cyfarwyddwr Addysg.

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl lawn a gyhoeddwyd yn yr Irish Times.

AU40015