Aberystwyth ymhlith y 200 sefydliad addysg uwch mwyaf rhyngwladol yn y byd

14 Ionawr 2016

Mae ffigyrau sydd wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Iau 14 Ionawr 2016) gan y Times Higher Education World University Rankings yn dangos bod Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 200 sefydliad addysg uwch mwyaf rhyngwladol yn y byd.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn safle 162 am ‘olygwedd ryngwladol’ yn ôl y Times Higher Education sydd wedi ystyried perfformiad 800 o brif sefydliadau addysg uwch y byd.

Gwelodd Prifysgol Aberystwyth gynnydd yn ei pherfformiad yn y categori hwn, gan sgorio 72.2 o’i gymharu â 66.5 yn 2014/15.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o groesawu myfyrwyr rhyngwladol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y canlyniad ardderchog o hwn a’r wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education. Mae mwy na 90 o genhedloedd wedi eu cynrychioli yma ar unrhyw adeg, gan gynnig profiad hynod amrywiol a chosmopolitaidd i’n myfyrwyr rhyngwladol yn ogystal â'r rhai o Gymru a gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol."

Ym mis Hydref 2015 agorodd Prifysgol Aberystwyth Gampws Cangen Mawrisiws gan ddarparu graddau, sydd wedi eu hachredu gan Gomisiwn Addysg Drydyddol y wlad, mewn Cyfrifeg a Chyllid, Busnes, Cyfrifiadureg a’r Gyfraith.

"Adlewyrchir ein golygwedd ryngwladol yn ein huchelgais i ddatblygu campws cangen yn Mawrisiws er mwyn gwasanaethu anghenion myfyrwyr o Affrica, Asia a’r Byd. Mae'r datblygiad hwn yn cyd-fynd â'n hamcanion strategol o ‘Greu cyfleoedd’ a ‘Meithrin ein cysylltiadau â’r byd’ drwy ‘gydweithio yn genedlaethol ac yn fyd-eang' ac yn cynnig enghraifft ardderchog o sut y gallwn alluogi rhai sydd yn gwerthfawrogi ansawdd gradd o’r Deyrnas Gyfunol i astudio mewn canolfan ranbarthol neu sefydliad partner mewn ffordd sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch iddynt. "

Aberystwyth yn dringo 50 safle
Yn y Times Higher Education World University Rankings 2015-16 llawn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2015, dringodd Prifysgol Aberystwyth 50 safle i fod ymhlith y 350 sefydliad uchaf yn y byd, a’r 40ain uchaf yn y Deyrnas Gyfunol, o’r sefydliadau sydd wedi eu cynnwys.

Mae’r tabl hefyd yn tanlinellu gwaith ymchwil rhagorol Aberystwyth. Ar sail nifer y cyfeiriadau sydd wedi ei wneud at ymchwil o Aberystwyth,  mae’r Brifysgol yn safle 260 o’r 800 o sefydliadau sydd wedi eu cynnwys – cynnydd o 15 pwynt ar 2014/15.

Dywedodd Phil Baty, Golygydd y THE World University Rankings: “Mae golygwedd ryngwladol yn un o nodweddion allweddol prifysgol sy’n fawr ei bri. Mae’r sefydliadau sydd ar y brig yn cyflogi academyddion o bob rhan o’r byd, yn denu myfyrwyr o farchnad fyd-eang ac yn cydweithio gydag adrannau blaenllaw lle bynnag y maent.

Mae’n newyddion gwych i bob sefydliad sydd yn rhestr prifysgolion mwyaf rhyngwladol yn y byd. Mae’n arwydd o botensial gwych, ysbryd cystadleuol a deinameg.”

AU0916