Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn derbyn adroddiad Old Bell 3

Pantycelyn

Pantycelyn

20 Ionawr 2016

Mae Old Bell 3, y cwmni a fu’n ymchwilio i ganfyddiadau’n ymwneud â llety a gofod cymdeithasol Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cyflwyno eu hadroddiad annibynnol terfynol i’r Brifysgol.

Comisiynwyd yr astudiaeth annibynnol yn Hydref 2015 gan Fwrdd Prosiect Pantycelyn, sy’n cydlynu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol dynodedig Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nod yr astudiaeth oedd edrych i mewn i anghenion darpar fyfyrwyr Cymraeg o ran llety a gofod cymdeithasol am y deugain mlynedd nesaf a dangos sut y gellid cyfoethogi profiad myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys holiadur ar-lein, cyfres o gyfweliadau unigol, grwpiau ffocws gyda myfyrwyr a staff y Brifysgol ac mewn ysgolion uwchradd a choleg addysg bellach. Cyfrannodd dros 600 o unigolion i’r gwaith maes a gynhaliwyd yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2015.

Cyflwynwyd canfyddiadau Old Bell 3 i Fwrdd Prosiect Pantycelyn yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2016. Mae’r adroddiad llawn ynghyd â chopi o’r cyflwyniad i’r Bwrdd Prosiect ar gael yma www.aber.ac.uk/pantycelyn.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â strwythur y llety a’r gofod cymdeithasol a fyddai ar gael i breswylwyr, ac yn ystyried twf mewn addysg uwch cyfrwng Cymraeg, tueddiadau diweddar o ran llety myfyrwyr ac enghreifftiau o lety penodol at anghenion ieithoedd lleiafrifol neu grwpiau lleiafrifol mewn gwledydd eraill.

Bydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn yn awr yn datblygu briff dylunio gan dynnu ar argymhellion adroddiad Old Bell 3. Bydd y gwaith hwnnw’n mynd rhagddo ar unwaith er mwyn cwrdd â’r amserlen y cytunwyd arni rhwng Cadeirydd y Cyngor, Syr Emyr Jones Parry, a chynrychiolwyr y myfyrwyr yn ystod Mehefin 2015.

Croesawyd yr Adroddiad gan Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad trylwyr hwn. Mae nifer ac ystod yr ymatebion wedi bod yn galonogol iawn ac yn tystio i bwysigrwydd Prifysgol Aberystwyth i’r gymuned Gymraeg.”

Ychwanegodd: “Mae’r adroddiad annibynnol hwn yn cynnig nifer o argymhellion gwerthfawr ac rwy’n falch fod y Bwrdd Prosiect wedi’u cymeradwyo fel rhai addas i’w cyflwyno i’r penseiri er mwyn cael y cyngor priodol ynglŷn â sut y gellid cyflawni’r argymhellion yn adeilad Pantycelyn. Tasg y Bwrdd wedyn fydd cyflwyno briff dylunio terfynol i Gyngor y Brifysgol yn yr haf”.

Dywedodd Hanna Merrigan, Llywydd UMCA ac aelod o’r Bwrdd Prosiect: “Rwy’n croesawu adroddiad Old Bell 3 ac rwy’n falch iawn eu bod wedi ymgynghori’n eang ac wedi cymryd i ystyriaeth farn myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Gobeithiaf y bydd modd gwireddu cymaint o’r argymhellion â phosib oddi fewn i Bantycelyn”.

Pantycelyn

Adeiladwyd Neuadd Pantycelyn ym 1951, ac fe ddaeth yn neuadd breswyl Gymraeg ym 1973. Ers hynny, bu'r adeilad yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg Prifysgol Aberystwyth gan gyfrannu mewn amryfal ffyrdd tuag at hybu ffyniant y bywyd hwnnw.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i’r angen i foderneiddio cyfleusterau Neuadd Pantycelyn ddod yn fwyfwy amlwg, datblygodd trafodaeth ynglŷn ag union natur y llety a'r gofod cymdeithasol Cymraeg y dylai Prifysgol Aberystwyth anelu i'w darparu i’r dyfodol, ynghyd â thrafodaeth ynglŷn â lle Pantycelyn yn rhan o'r ddarpariaeth honno.

Ym Medi 2015, sefydlodd Prifysgol Aberystwyth Fwrdd Prosiect Pantycelyn i oruchwylio ’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol cyfrwng-Cymraeg o’r radd flaenaf, gan ystyried y galw am lety cyfrwng-Cymraeg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Sefydlwyd y Bwrdd yn dilyn cynnig a basiwyd gan Gyngor y Brifysgol ym Mehefin 2015, oedd yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu llety cyfrwng-Cymraeg yn y Brifysgol. Mae manylion y cynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor i’w gweld yma - https://www.aber.ac.uk/cy/university/pantycelyn/