Prifysgol Aberystwyth yn lansio partneriaeth chwaraeon gyda'r Urdd

Chwith i’r dde: Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth; Ken Skates AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth; Sioned Hughes, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru; y chwaraewr rygbi rhyngwladol Elinor Snowsill ac Elan Gilford enillydd Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Gwobrau Chwaraeon Cymru.

Chwith i’r dde: Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth; Ken Skates AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth; Sioned Hughes, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru; y chwaraewr rygbi rhyngwladol Elinor Snowsill ac Elan Gilford enillydd Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Gwobrau Chwaraeon Cymru.

27 Ionawr 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cytundeb ar gyfer partneriaeth newydd gydag Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru a fydd yn cynnig cyfleoedd newydd ac yn hyrwyddo chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd y bartneriaeth ei lansio heddiw (27 Ionawr) yng Ngwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd yng nghwmni Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.  Hefyd yn bresennol roedd y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Elinor Snowsill ac enillydd Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Gwobrau Chwaraeon Cymru, Elan Gilford.

Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal wyth cystadleuaeth genedlaethol bob blwyddyn, gyda tua 45,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan.  Bydd gan y Brifysgol bresenoldeb yn yr holl ddigwyddiadau hyn a byddant hefyd yn bartner allweddol yng ngweithgareddau wythnosol yr adran ledled Cymru gan gyrraedd 100,000 o blant a phobl ifanc bob blwyddyn.

Bydd y bartneriaeth hefyd yn cynnwys cyfraniad ariannol gan y Brifysgol i noddi gwisg staff yr adran, cefnogi a datblygu mentrau cymunedol newydd a swyddfa i swyddogion chwaraeon newydd.

Yn ôl Gary Lewis, Cyfarwyddwr Adran Chwaraeon yr Urdd, “Rydym yn falch iawn o’n partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth.  Gyda chytundeb pum mlynedd wedi ei arwyddo, gallwn ganolbwyntio ar ddarparu y ddarpariaeth chwaraeon orau trwy gyfrwng y Gymraeg, ledled Cymru gyda chefnogaeth y Brifysgol.   Rydym wedi gweithio gyda’r Brifysgol yn y gorffennol ond nawr gallwn edrych ymlaen i’w cael yn bartner swyddogol am y bum mlynedd nesaf.”

Ychwanegodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Diwylliant Cymru, a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gefnogol o’r Urdd ers blynyddoedd, yn cefnogi y gweithgareddau diwylliannol yn yr Eisteddfod a’r ddarpariaeth chwaraeon, gan gynnwys Cyrsiau Hyfforddi Chwaraeon.  Fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, rydym yn falch o allu cryfhau ein cefnogaeth wrth lansio’r bartneriaeth hon.  Trwy hynny rydym yn darparu platfform i bobl ifanc Cymru ddatblygu eu sgiliau a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym maes chwaraeon.” 

Yn ôl Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, “Rwyf yn croesawu y bartneriaeth newydd hon gan ei bod yr union fath o gydweithio y byddwn ei angen os ydym am greu cyfleoedd cynaliadwy i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru.  Mae’r Urdd yn un o’n partneriaid allweddol yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac rwy’n falch y bydd mwy o gyfleodd, trwy’r bartneriaeth hon, yn cael eu creu i blant a phobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfa sydd o fudd i iechyd, cymdeithas a diwylliant.”


AU1716