Enwi rhewlif yn Antarctica ar ôl rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth

Yr Athro Neil Glasser yn sefyll ar y “Rhewlif Dienw” (Rhewlif Glasser), ar Ynys James Ross, Antarctica yn 2011.  Llun: Dr Bethan Davies

Yr Athro Neil Glasser yn sefyll ar y “Rhewlif Dienw” (Rhewlif Glasser), ar Ynys James Ross, Antarctica yn 2011. Llun: Dr Bethan Davies

01 Chwefror 2016

Mae rhewlif yn Antarctica wedi’i enwi ar ôl rhewlifegydd o Brifysgol Aberystwyth.

Cafodd Rhewlif Glasser ei enwi  ar ôl yr Athro Neil Glasser o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, a Chyfarwyddwr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg y Brifysgol.

Yn 1500 metr o hyd a 500 medr o led, mae Rhewlif Glasser ar Ynys James Ross ac yn llifo tua'r gorllewin o gromen iâ fawr ar Greigiau Lachman.

Dyma'r ail nodwedd ddaearegol yn Antarctica sydd wedi’i henwi ar ôl academydd o Brifysgol  Aberystwyth. Mae Clogwyni Hambrey, sydd hefyd ar Ynys James Ross, wedi’u henwi ar ôl yr Athro Mike Hambrey, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg Aberystwyth ac enillydd Medal y Pegynau.

Ychwanegwyd yr enw diweddaraf gan Bwyllgor Enwau Lleoedd yr Antarctig, “i gydnabod ei waith ymchwil sylweddol [yr Athro Glasser] ar Benrhyn Ulu, Ynys James Ross a’i gyfraniadau ehangach at wyddoniaeth yr Antarctig a’r pegynau”.

Bydd yr enw newydd yn cael ei ychwanegu at y cyhoeddiad British Antarctic Territory Gazetteer ac ar gael i'w ddefnyddio ar bob map a siart, ac ym mhob cyhoeddiad.

Dywedodd yr Athro Glasser: "Mae cael rhewlif wedi ei enwi ar fy ôl yn anrhydedd fawr i mi.  Treuliasom 7 wythnos ar waith maes yn yr ardal hon o Antarctica yn 2011. Ar ein holl fapiau a chyhoeddiadau fe'i gelwir y 'Rhewlif Dienw' ac mae'n wych o beth gwybod taw Rhewlif Glasser fydd yr enw o hyn ymlaen!”

AU2216